Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwyno

cwyno

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol.

TSB: Adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi anfon at fanc y TSB yn cwyno am ei agwedd tuag at y Gymraeg a'r diffyg ffurflenni Cymraeg oedd ar gael.

Er mor annhebygol ei bod hi'n aelod o'r Seiri Rhyddion yr oedd hi'n aelod o Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol a fu'n gyfrifol am wneud yr argymhelliad a doedd neb yng Nghymru - a dim ond un ffigur uchel yn y Seiri Rhyddion yn Llundain - wedi cwyno.

Hyd y gallaf i weld, yr oedd y Cymry huawdl yn rhy brysur yn cwyno am y trafferthion a gawson nhw i ffonio cystadleuaeth Cân i Gymru.

." Gafaelais yn dynnach yn ei fraich i geisio'i rwystro rhag ailddechrau cwyno'n uchel.

Dydw i ddim yn cofio a oedd Dafydd Elis Thomas yn un ohonyn nhw; ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mi fuo na sawl un yn cwyno i'r Wasg Brydeinig droi ei chefn ar Gymru.

Ei gas beth a fyddai cael ei erlid o'i dŷ ei hun, 'run fath a Dafydd Gruffudd, gan ryw geilioges o ddynes yn cwyno ei fod o dan ei thraed hi o fore gwyn tan nos.

Mi ddywedon nhw fod yna rhai wedi cwyno amdano, meddai'r fam i bedwar.

Dyma'r dyn sydd wedi cwyno droeon am ddiffyg trafod 'petha' mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Nid oedd Daniel yn gawr o ddyn, ond beth bynnag oedd pwysau'r blaten ni chlywais ef yn cwyno.

Brenin yr oiks ydi Michael Caine a fu'n cwyno gymaint dros y blynyddoedd fod yna ragfarn yn erbyn ei acen Cocni y mae on awr yn mynd i gael ei wneud yn Syr.

Bu'r wasg yn llawn yr wythnos hon yn condemnio y Daily Mirror am ymyrryd a phreifatrwydd pobol, ond doedd neb yn cwyno am Nia -- ddim hyd yn oed un wylwraig a oedd a llond ceg o sandwich wy pan ymddangosodd Nia fel huddug i botes wrth ei hochor!

Felly paid cwyno gormod.

Clywir llawer yn cwyno fod bywyd yn broblem, yn enwedig wrth drafod pethau fel dyfodol rygbi rhyngwladol Cymru, tîm criced Lloegr, grantiau ymchwil, etc.

Mae Gareth Jenkins, hyfforddwr Clwb Rygbi Llanelli, wedi bod yn cwyno am drefn gemau'r tymor.

Mae hwnnw wedi bod yn cwyno'n ddiweddar, dwi wedi dweud wrtho fo am gymryd peth o'i ffisig ei hun.

Mae cyfarwyddwr hyfforddi Clwb Rygbi Casnewydd Allan Lewis, yn cwyno'n enbyd am strwythur y gêm yng Nghymru.

Nid unionodd Hugh Evans byth o dan y brofedigaeth hon, er na chlywyd mohono'n cwyno na braidd yn sôn am enw ei annwyl fachgen.

Ond ers i arwyddion ffyrdd newydd gael eu codi ar gyrion y pentref yn ddiweddar, mae'r cwyno wedi dechrau.

Fe fues i'n cwyno am y teithio, hyd nes imi weld y Cwrdiaid.

Mae o'n crio isio cael dŵad i'r tŷ, clywch ar ei lais o'n cwyno.

mae'r cwyno di-ddiwedd wrth ambell chwaraewr rôl derbyn cleisiau corfforol wedi dechrau arfer annerbyniol.

Er nad oedd wedi cwyno wrth neb gwyddai Bob ei fod yn dioddef poenau yn ei gefn.

Yn dilyn llythyr i'r Caernarfon and Denbigh yn cwyno nad oedd y papur am dderbyn adroddiadau Cymraeg, adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi derbyn galwad ffon yn dweud bod croeso i bob cyfraniad Cymraeg yn y papur.

(Ond ni weithiodd y washar rioed yn iawn ar y tap ym mhenglog Gruff neu mi fydda fo'n gwneud mwy na dim ond cwyno am hanner awr wedi dau y bore fod y papura bach arian yn pigo'i hen benôl o).

Na, doedd hynny ddim yn hollol wir: roedd yn gas ganddo ei chlywed yn cwyno.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Yn sgil y system bresennol, mae'r drefn o fonitro cynlluniau iaith yn aneffeithiol ac yn anymarferol i'w chyflawni, a chanlyniad hyn oll yw fod rhaid cwyno yn barhaus neu fodloni ar wasanaeth anghyflawn ac annigonol yn aml.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Rydw i wedi clywed sawl myfyriwr a phlant ysgol yn cwyno ei bod yn syml, nad oes dim fawr 'yn digwydd'.

Bu cwyno yn y papur bro lleol, Llafar Bro, fod mast teliffon symudol hyll wedi ymddangos, a mawr oedd y cwynion yn ei erbyn.

Bu cwyno droeon am dractorau a pheiriannau eraill nad oedd yn gweithio - er eu bod yn newydd sbon.

Ar ôl cwyno am safiad UEFA mae Cyfarwyddwr y Gymdeeithas Bêl-droed David Davies bellach yn dweud y byddan nhw'n ymateb yn bositif i'r hyn oedd gan UEFA i'w ddweud.

Mae gen i awydd cwyno wrth yr Arolygwr.'

Mae Cymdeithas Pêl-droed Lloegr wedi cwyno'n swyddogol i FIFA ar ôl y gêm gydag Albania neithiwr.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

Mi fuasen well gen i pe byddai nhw wedi cwyno wrtha i yn hytrach na mynd at yr heddlu.

Y mae trigolion trefi glan môr yn y gogledd yn cwyno fod gwylanod yn bla yno.

'O leia roedd yr achos 'ma'n un haeddiannol, felly dydw i ddim yn cwyno.

Doedd neb yn cwyno.

A'i hanes yn y diwedd oedd ei fod, fel ei dad o'i flaen, yng ngafael mân betheuach y byd hwn yn cludo ymenyn i'r siop ac yn cwyno am bris y farchnad.

Mewn siop Smiths ddydd Sadwrn clywais un fam yn dweud wrth un arall fod ei phlant hi yn cwyno fod y Potter diweddaraf mor drwm ei fod yn eu blino nhw wrth ddarllen.

Hi oedd enillydd ail noson Canwr y Byd Caerdydd, ac os na chawn ni wefr debyg eto yng nghystadleuaeth eleni fydd neb yn cwyno.

Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.

Clywais rai pobl yn cwyno am fod gan Kate Roberts ormod o ddisgrifio dillad a gormod o ddisgrifio prydau bywyd.

Clywswn ei bod yn cwyno.

Petaen nhw wedi sgorio 10 fuasai neb yn cwyno.

Nid aeth Ferrar i esgobaeth Tyddewi ar unwaith a bu cwyno digon pigog oherwydd hynny.

Ddim mod i'n cwyno, cofiwch.

Go brin mai'r meddygon sy'n cwyno -- mae ganddynt hwy eu dull o ganfod gwir angen.