Ar y cychwyn bu'n rhaid i William Hughes a'r hwch ddioddef anfri a sen oddi ar law y cybiau a deithiai'n y sedd gefn.
A 'da chi ddim wedi talu'ch ffer 'chwaith.' Fel roedd William Huws yn croesi'r cae, a'r hen hwch yn igam-ogami'i rhyddid newydd, clywodd swn traed cybiau'r sêt gefn yn trybowndio i lawr grisiau'r bus dan siantio'u gwrthryfel dros y wlad dywyll, agored.