Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cychwynnodd

cychwynnodd

Cychwynnodd gerdded wrth f'ochr.

Felly y cychwynnodd ei hanes.

Cychwynnodd ar gynllun i werthu deugain o ddiwydiannau cyhoeddus, i breifateiddio deugain o brif gwmni%au'r wlad.

Cychwynnodd ei rhaglen gyda Parto, parto allan o La clemenza di Tito gan Mozart.

Cychwynnodd tuag at y prysurdeb yn wyllt ond galwyd arno'n ôl.

Y bore yma cychwynnodd Caerwrangon ar 51 am un.

Cychwynnodd y pedwar eu ffordd i fyny'r traeth am y gwesty.

Ond rhaid ydyw dweud mai yn Ysgol y Nant y cychwynnodd y peth fel diwygiad yn wir.

Wedyn cychwynnodd ar gwrs addysg - a olygai, wrth gwrs, ei fod yn absennol o'i blwyfi.

Yn hwyr y noswaith honno wedi treulio diwrnod digon diddan efo Mali a'r plant, cychwynnodd Merêd a Dilys am Gaergybi i ddal y llong hwyr am Iwerddon.

Cychwynnodd ar hyd honno, ar ôl ychydig gamau drysodd y trywydd, a dechreuodd Smwt symud o gwmpas mewn cylchoedd unwaith eto.

Cychwynnodd tua'r angorfa'n or-brydlon, a gwylied llongau'n dod i mewn ac yn ymadael.

Cychwynnodd redeg ar flaenau'i thraed dros lawr y gegin, ond rhewodd mewn braw pan glywodd floedd awdurdodol o'r tu allan.

Cychwynnodd Y Cynniweirydd tra oedd yn yr Wyddgrug.

Cychwynnodd y ddadl ar dir y gwahaniaeth rhwng clasuraeth a rhamantiaeth ac ymledodd gydag amser i gwmpasu trafodaeth ar werthoedd moesol.

Dipyn ar ôl hanner awr wedi dau cychwynnodd ar ei daith i Abergwaun.

Cychwynnodd yr Achos ym Mhrion ym mharlwr Brynmulan, cartref Ann Parry, ac yno y cynhaliwyd y seiat wythnosol.

Cyn i'r garafa/ n camelod gyrraedd y balmwydden cychwynnodd y criw ar ei hôl, gan redeg a gweiddi.

Cychwynnodd India'n hyderus er iddyn nhw golli Siv Sundar Das yn gynnar, wedi'i ddal a'i fowlio gan Glenn McGrath.

Gyda nifer o gyhoeddiadau ar faterion pur dechnegol y cychwynnodd ar sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad ddydd Mercher.

Penderfynodd y grwp gyhoeddi'r albwm ar label Sain yn hytrach nag efo'r cwmni y cychwynnodd y grwp eu gyrfa gydag ef, Recordiau Gwynfryn.

Cychwynnodd pawb am y drws yn ufudd.

Cychwynnodd gyda phum pelawd gan ildio dim ond pum rhediad.

Cychwynnodd y Gymdeithas drwy fynnu statws i'r Gymraeg mewn siopau, banciau ayyb, a chafodd nifer o fuddugoliaethau.

Cychwynnodd unwaith o Ucheldiroedd yr Alban am Glasgow ar ddydd lau, a chyrraedd Cyffordd Llandudno fore Sul.

Roedd ei rieni yn falch iawn y diwrnod y cychwynnodd am y coleg ar ôl cael ei dderbyn.

"Mae Cymru wedi bod dan y dŵr hyd yn awr", meddai, "ond fe ddylasem gofio mai yn y dwr y cychwynnodd bywyd".

Roedd hi'n ddydd Sadwrn cyn y caniataodd ei fam i Alun fynd i Faes y Carneddau i ddychwelyd y ffon, ac ar ôl bwyta'i swper cychwynnodd ar ei daith.

Cychwynnodd y streic ym mis Mawrth.

Dymchwelodd y chest de y funud y cychwynnodd y ceffylau a'r injan ar eu taith a thaflwyd y gwas bach yn bendramwnwgl i ganol y gwair.

Cychwynnodd Cynog Dafis yn Gymraeg gan ofyn pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i adolygu cyflogau athrawon.