Look for definition of cydio in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.
Ymhen ychydig funudau gwelodd y tennyn yn dechrau symud, cododd ei ben a gwelodd dau grychydd glas yn cydio yn y ddwy lysywen.
'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.
Ond yr oedd y teitl 'academi' yn cydio'r sefydliadau hyn wrth yr academiau anghydffurfiol a sefydlwyd yn ystod Oes yr Erlid yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a welodd eu hoes aur yn y ddeunawfed ganrif.
Mae Maelgwn Magl yn cydio ynot ac ar ôl i'r wraig adrodd yr hyn y cred a ddigwyddodd, gorymdeithia'r holl bentrefwyr a thithau yn ôl i dŷ'r pennaeth.
Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...
Yn 'Teisi' mae dwy das mewn cadlas yn llenwi gofod y llun, un yn y canol, y llall wedi ei thorri yn ei hanner gan y ffrâm, ac ystol goch yn cydio'r ddwy.
Fu+m i ddim allan i'r dwfn." "Beth petai'r cramp wedi cydio'n eich cymalau chi?" "Dydw i erioed wedi dioddef o'r cramp." "Mae tro cynta i bawb.
Teimlai nad oedd arno awydd dod yn agos ati, a phetai hi'n ceisio cydio yn ei law, fe fyddai'n gwneud esgus i'w ryddhau ei hun o'i gafael.
Bob hyn a hjyn, byddaf yn troi at ei ysgrif ar 'Robert Williams Parry' yn cyfrol Gwyr Llen, a olygwyd gan Aneirin Talfan Davies - ysgrif sy'n cydio bob gafael.
Ond nid yw cydio ynddo'i hun yn ddigon chwaith.
Efengylu cynulleidfaol oedd hwn gydag ysbryd tystiolaethu'n cydio yn yr aelodau.
Mae o wedi cael mwy o ferched nag wyt ti wedi eu gweld o gerrig beddau.' Teimlodd Dei y dillad yn cydio yn ei gorff oherwydd y chwys oer oedd yn ei gerdded.
Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi'r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.
Pan oedd y cydio maes wrth faes yn digwydd, nid colli'r teuluoedd oedd yn byw yn y ffermydd yn unig yr oedd y gymdeithas; roedd y gweithwyr a'u teuluoedd yn gadael hefyd, ac yr oedd y crefftwyr yn mynd yn brin ac yn diflannu, ac nid oedd angen gwasanaethau ar boblogaeth denau oedd yn nychu i'w thranc.
Credaf mai ParryWilliams a fathodd y term 'pryd poced' a fyddai'n cydio de a gogledd yn esmwyth ddigon.
Gall fod gan y silia byr hyn yr holl gyfarpar hanfodol ar gyfer symud neu beidio, ond os yw blaenau'r ffibrilau sy'n ffurfio pob siliwm wedi'u cydio'n dynn yn ei gilydd, yna rhwystrir y ffibrilau rhag llithro dros ei gilydd.
Enghraifft yw Rowlands o'r modd yr oedd y Derwyddon yn cydio yn nychymyg hynafiaethwyr yr oes, wrth iddo chwilio'n ddyfal yn ei fro am y meini hirion, y cromlechau a'r carneddau y gellid eu cysylltu a hwy.
Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.
Ni oedd y cynta' i wneud y fath beth yn Ciwba a dyna'r ymateb mwya' a ges i i unrhyw raglen erioed - roedd fel pe bai naws Ciwba wedi cydio yn nychymyg pobl.
Daeth gwraig ifanc i'r drws, a geneth fach yn cydio yng nghwr ei ffedog.
Thema bwysig, felly, yn ei feddwl yw thema buddugoliaeth ac y mae'n cydio wrth bwyslais yn y meddwl Cristionogol sy'n ymestyn yn ôl i'r ail ganrif, i ddiwinyddiaeth Irenaeus.
Mae'r felin foel yn cydio tir, môr ac awyr trwy linellau lletraws ei hesgyll.
Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.
Rwyt ti'n ferch mor ddeniadol, felly mae'n rhaid iddyn nhw gael cydio'n dynnach fyth.'
Gofalodd rhywun, serch hynny, argraffu ar feddwl y bechgyn iddynt gael eu geni'n freiniol ac yn ddiarwybod iddynt bron, yr oedd y berthynas waed yn eu cydio nhw â'r castell yn Nolwyddelan.
Deudwch y dowch chi." Teimlwn ei bysedd byrdew yn cydio yn fy mraich a'i gwasgu.
Erbyn i ti ei dal, mae'r pentref i gyd wedi dihuno a phan wêl y trigolion dy fod yn cydio yng ngwraig Alcwyn cred rhai ohonynt dy fod yn ymosod arni.
'Wnes i ddim ond cydio yn fy nghap a deud, "Dyna dy eitha' di'r uffar," ac allan a fi'.
"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.