Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydiodd

cydiodd

Cydiodd Ifor yn y bwced ac aeth at y tap i'r sied ddefaid.

Cydiodd y fflamau yn y gwellt a'r rhedyn a chyn hir roedd y ddaear i gyd yn wenfflam.

I ddifyrru'r amser, fel petai, cydiodd mewn dyrnaid o dai a ffermdai a'u gollwng yn freuddwydiol drwy ei ddwylo fel y bydd plentyn yn chwarae gyda thywod.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Cydiodd yn y rholyn Scotch, a lapiodd y tâpiau.

Cydiodd Janet yn ei law eto a'i arwain 'nôl at y Teulu i'r Neuadd a daeth hithau ati ei hun a cherdded yn araf i'w hystafell.

Cydiodd yntau yn y tennyn ac fe'i codwyd i'r awyr ac nid oedd wiw iddo ollwng gafael.

Cydiodd pob un yn ei arf gan gamu o gysgod y graig i aros am yr ymosodiad.

Cydiodd ei mam yn ei hysgwydd.

Dyn ar 'i linia, gefn dydd gola.' Cydiodd Obadeia Gruffudd ym mraich y setl, yn ffrwcslyd, a thynnu'i hun i godi mor frysiog â phosibl.

Cydiodd ei thad am ei hysgwyddau.

Cydiodd Medrawd ynddi'n chwyrn.

Cydiodd rhyw blentyn bychan, budur iawn yr olwg yn ei arddwrn a syllu'n ymbilgar i'w lygaid.