Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.
Cymharodd yr Esgob Lewys Bayly o Fangor (a fuasai ar un cyfnod yn hen elyn i Wynn) deulu Gwedir i farch na wyddai ei nerth ei hun; cydnabuwyd mai gair Syr John oedd yr uchaf a'r parchusaf ymhlith ei gyd-ysweiniaid ar y fainc yng Nghaernarfon; a rhydd ef ei hun yr argraff yn gyson yn ei ohebiaeth iddo dderbyn addysg a disgyblaeth fonheddig a chwrtais.
Cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud eisoes ym maes datblygu cynlluniau rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn y Rhanbarthau Cenedlaethol, ond mae angen mwy o fanylion am y ffordd y mae rhwydweithiau cenedlaethol y BBC yn paratoi i ystyried y newidiadau mawr sydd ar fin effeithio ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cydnabuwyd mewn ysbryd hael iddo ymestyn dylanwad Plaid Cymru o ffiniau cyfyng y Gymru Gymraeg i weddill y wlad.