Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydnabyddedig

cydnabyddedig

meysydd cydnabyddedig hynny megis yr esthetig a chreadigol, mathemategol, corfforol, gwyddonol, ysbrydol a moesol, technolegol, liaith a llythrennedd, dynol a chymdeithasol a maes cartref a'r ysgol.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Tyfodd chwedl a soniai am Bilat yn troi'n Gristion ac yn marw'n ferthyr; enwir ef ymhlith saint cydnabyddedig Eglwys Ethiopia.

Yn anffodus, er eu pwysigrwydd ac er eu llwyddiant, prin yw nifer yr ysgolion Cymraeg cydnabyddedig, ac afraid yw sôn am sefydliadau Cymraeg yn y sector addysg uwch.

Mae gan lawer o sefydliadau addysg uwch lleol lwybrau cydnabyddedig i achredu gweithgareddau addysg/diwydiant.

Y mae ambell gwmni'n edrych am gyfieithiadau o ddramâu o safon cydnabyddedig, sydd o leiaf yn cyfoethogi'r cyflenwad pitw o ddramâu sydd ar gael yn y Gymraeg.

Ceisiadau gan Bersonau i'w cydnabod yn Ddefnyddwyr Ceir Cydnabyddedig

Ar hyn o bryd, mae gwella'r amgylchedd yn isel iawn ar restr y rhesymau cydnabyddedig dros adennill.

Hawdd yw dilorni agwedd ffug-ysgolheigaidd Rowlands, ei syniadau am 'conjectural history' neu'i eirdarddu carlamus, ond er hynny cystal cofio ei fod yn dilyn awdurdodau cydnabyddedig ei ddydd, megis Thomas Burnet y daeargwr, Aylett Sammes, awdur Britannia Antiqua Illustrata, a'r ieithegydd Samuel Bochart.

Yn sicr, nid oes angen, hyd yn nod i feirdd, anwybyddu ffeithiau cydnabyddedig gan feirniaid ieithyddol.

Dynodir y canlynol fel dyletswyddau cydnabyddedig i bwrpas talu lwfansau presenoldeb yn unol â'r cynllun hwn, sef:-

Does dim sy'n fwy gwerthfawr na'r ffresni egni%ol hwnnw, ond mae'n bosib mai'r defnydd gorau ohono fyddai ei ffrwyno o fewn safonau cydnabyddedig y grefft arbennig honno.Llen Cymru

Dyletswyddau Cydnabyddedig

Y mae nifer bychan o weisg a chyhoeddwyr masnachol yng Nghymru sydd yn medru cynnig safon cydnabyddedig o waith yn y Gymraeg.