Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydweithredol

cydweithredol

Yn ogystal, mae angen hybu agweddau mwy cydweithredol ymysg Cymry Cymraeg cynhenid, dysgwyr, a'r di-Gymraeg.

Bellach, rwyf newydd basio pentref lle mae criw o bobl fel pe baen nhw'n codi tŷ gwiail mewn modd cydweithredol.

Mae'r pwyslais ar werth cadarnhaol cenedlaetholdeb cydweithredol a chreadigol yn un i'w ganmol.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Galluogwyd hi i fod yno drwy gymorth ariannol Merched Dros Fywyd ar y Ddaear a'r Mudiad Cydweithredol.