Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydweithredu

cydweithredu

Dim ond gelynion Cymru a Chymreictod sy'n honni y buasai'r cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydweithredu'n llon â'r Ellmyn petai lluoedd Hitler wedi goresgyn Prydain.

Mae gweithgor wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng y tri awdurdod yn barod ond hyd yma nid oedd y Cyngor Sir wedi ymuno yn y trafodaethau, er bod Pwyllgor Polisi'r Cyngor Sir yr wythnos hon wedi argymell iddynt ddechrau cydweithredu.

Ildio, cydweithredu: dyna gyngor yr arbenigwyr.

Arfer cynghorau sir Cymru yw gwrthod cydweithredu â'i gilydd heb eu gorfodi, a gwrthod hyd y gallant bob cais i newid eu cyfansoddiad a'u trefn.

Beth bynnag am y gwrthdaro cyhoeddus rhwng aelodau'r gwrthbleidiau a gweinidiogion, mae'n rhan hanfodol o'r berthynas hefyd eu bod yn gallu trafod materion etholaeth yn effeithiol ac yn gallu cydweithredu ar bynciau fel datblygu economaidd.

Ar un adeg bu'n weinidog yn y blaid geidwadol; bu'n cydweithredu â Rene Levesque pan oedd hwnnw yn brif weinidog Que/ bec; bu hefyd yn llysgennad Canada ym Mharis, ond ffurfiodd y Bloc que/ be/ cois dair blynedd yn ôl, ychydig cyn methiant cytundeb Lac Meech a oedd i roi statws arbennig i Que/ bec.

Cydweithredu yn hytrach na chystadleuaeth fu'r egwyddor sylfaenol yng Nghymru erioed.

Y nod yw efelychu llwyddiant Denmarc, Valencia yn Sbaen, Emilia-Romagna yn yr Eidal, Baden- Wuerttemberg, ein chwaer-ranbarth yn yr Almaen a rhai o daleithiau America fel Pennsylvania wrth greu yr hyn a elwir yn 'rhwydweithiau cydweithredu' rhwng cwmni%au bach a mawr a rhwng y sector breifat a'r sector gyhoeddus.