Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydwybod

cydwybod

Tra credai'r clasurydd Eliot na ellid llenyddiaeth fawr heb awdurdod allanol traddodiad yn sail iddi, mynnai Murry mai cydwybod yr unigolyn oedd yr unig faen prawf dibynadwy mewn llenyddiaeth ac ym mhob cylch arall o fywyd: Nid oedd gan Eliot ddim i'w ddweud wrth awdurdod mor wamal a chyfnewidiol.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

'Hawlio rhyddid cydwybod a rhyddid i bregethu'r efengyl oddi ar gariad ati - dyna ei waith mawr'.

Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.

Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.

Yn ei wlad ef yr oedd gwin yn ddihysbydd, cydwybod yn ddi-waith, a barddoniaeth yn gyfiawnhad gorfoleddus iddi ei hun .

Ond ta waeth am hynny, roedd gwen ei chroeso i mi yn jam a fyddai'n werth ei fotlio.A Gres Owan, Tyddyn Waun fyddai'n arfer dweud, 'Nid yw ein gweithredoedd da yn ddim ond yr hyn y mae'n cydwybod yn ei orfodi arnom i guddio'n gweithredoedd drwg.

Fel golygydd Yr Ymofynnydd gwasanaethodd fel cydwybod a chennad, amddiffynnwr ac ymosodwr i'w fudiad - y mudiad a garai mor angerddol.

Amheuthun i fynd â'ch tatws, pys, moron, sgewyll a'ch cydwybod gwyrdd golau.

Ac er nad oedd gan y Canghellor Kohl fawr o amynedd â'r 'twristaid cydwybod' a ddenwyd yno yn sgil hyn, roedd hi'n yrnddangos fod y gweithredu'n dwyn ffrwyth.

Cyd-drawodd penodiad Peate â dau ddigwyddiad ym mywyd diwylliannol Cymru a fu'n foddion nid yn unig i gadarnhau ei ddaliadau ynghylch hollbwysigrwydd cydwybod yr unigolyn ond hefyd i osod y daliadau hynny mewn cyd-destun Cymreig.

Yn wir, fe welodd ef lifeiriant datblygiad i raddau uwch na neb arall; a phan gofiom mai dangos dyn yn ymgyrraedd at dynerwch uwch ac at ryddid cydwybod a wna stori datblygiad, gallwn sylweddoli mai cynorthwy i grefydd ac nid gelyn, ydyw'r gred mewn Datblygiad ...