Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydwybodol

cydwybodol

Dadl David Griffiths yw ei bod yn ffasiwn i ystyried mai gwŷr galluog, talentog, cydwybodol, ond wedi eu camarwain, oedd y Dirprwywyr.

T., pan fo'n ymdrin a phwnc aflednais, rhwng awydd yr hanesydd cydwybodol am gywirdeb ac annhuedd y gwr bonheddig.

Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.

Ond yr oedd agwedd amaethwyr yn bur wahanol; er mor atgas ac erchyll oedd effeithiau Myxomatosis, yr oedd pob amaethwr cydwybodol a gawsai brofiad o ddifrod cwningod, yn ei groesawu.

Ar ddechrau'r rhyfel yr oedd yn 'athro mewn gofal' yn ysgol Casmael ac wedi cofrestru'n wrthwynebydd cydwybodol.

Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.

Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.

A gwaith costus yw sefyll fel gwrthwynebydd cydwybodol yn amser rhyfel, neu ymuno mewn protestiadau di-drais yn amser heddwch.

Y cam nesaf oedd uno Peniel, Saron, a Phrion yn un ofalaeth gyda Llanrhaeadr a'r Glyn dan ofal cydwybodol y Parchedig Arthur Jones.

'Dydi o ddim yn gofyn llawer gan y cydwybodol.' Nac ydi.' 'A'r rhai sydd o ddifri, wrth gwrs.

Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.