Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydymdeimlad

cydymdeimlad

Ac ar ochr yr ysgolfeistr, mae'n weddol amlwg, oedd cydymdeimlad y Dirprwywr Mitchell.

Estynnwn ein cydymdeimlad i'r holl deuluoedd hyn yn eu colled a'u hiraeth.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Gyda'r Calfiniaid yr oedd cydymdeimlad ei deulu, fel yntau.

Dylai fod cydymdeimlad a Thony Blair - a'i fusus - ymhlith pawb sydd wedi ceisio magu plant.

Dymuna ffrindiau Mr Huw Williams estyn eu cydymdeimlad dwys â Mrs Williams a Bethan ar eu profedigaeth o'i golli mor frawychus o sydyn tra roedd y teulu ar eu gwyliau ar Ynys Creta.

Ond mae'n nodwedd ar ymrysonfeydd geiriol y nofelau bod y ddwy ochr, ni waeth lle yr oedd cydymdeimlad yr awdur, yn cael llinellau cryfion er mwyn cynnal.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i Douglas, y plant, ac i ddau frawd Mair, sef Howard a Penri a'r teuluoedd.

"Mae ein cydymdeimlad yn gywir iawn ag Edith, ei briod, ei ddau frawd, Eddie a Glyn ..." Nefoedd Wen, mae Alun Bwlch wedi marw!

Estynnwn ein cydymdeimlad mwyaf didwyll i Dilwyn yn ei alar, ac i aelodau'r teulu oedd mor dyner eu gofal dros y ddau drwy'r cyfnod anodd a thrist.

Estynnwn ein cydymdeimlad i'r teulu oll.

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

Buont yn enau i'n cydymdeimlad dwys â Phegi, ei briod, teuluoedd y ddwy ferch Helen a Janet, ac heb anghofio ei frawd, Will.

Dymunwn iddi adferiad llwyr a buan ac estynnwn iddi ac i Mrs Sally Lewis, chwaer Mr Jenkins ein cydymdeimlad llwyraf.

Estynnwn ein cydymdeimlad i Mrs Mitchell a'r teulu oll yn eu colled.

Rhywbeth arall sy'n denu sylw'r darllenydd yw fod sefyllfa'r cymeriadau - a'r cymeriadau ynddynt eu hunain - yn ennyn cydymdeimlad ac fe ellir uniaethu â nhw yn aml.

Estynnwn ein cydymdeimlad iddynt.

Y mae ein cydymdeimlad a'i briod Pam a Bethan y ferch, Mrs Landeg Williams ei fam, a Jennifer Alexander ei chwaer, a'i theulu yn ddwfn ac yn ddidwyll.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Diffyg cydymdeimlad artistig yw hyn ac y mae'n codi o ddiffyg chwaeth artistig a philistiaeth naturiol gwerin ddi-gelfyddyd, di-deimladwy.

Dymunwn estyn ein cydymdeimlad a Mr Ivor Dryhurst Roberts, Bryniau, Hen Ffordd Conwy yn ei brofedigaeth o golli ei briod, a hefyd i'r mab Hugh a'r merched Jean ac Ann o golli ei mham.

Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.

Yr oedd natur gyfan wedi ei harfaethu i gynhyrchu, a chronnai cydymdeimlad a chydfwriad gwahanol elfennau natur ynghyd i'r diben hwnnw.

Llwyddodd Sara Maredydd, merch ddwy ar bymtheg oed o Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi, Machynlleth i greu cymeriad oedd yn hawlio ein dicter a'n cydymdeimlad ac oedd yn corddi ein hemosiwn.

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Bydd y rhelyw o rhain yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, ac felly, yn haeddu cydymdeimlad a ddealltwriaeth.

Fe wenwch mewn cydymdeimlad â hi.

Anfonwn ein cydymdeimlad i'r oll o'r teulu yn eu profedigaeth.

Mae'n bosib y byddai papurau newydd yn galaru am ei luniau ond prin oedd y cydymdeimlad yn y stafelloedd newid y diwrnod y dywedodd Steve wrthym fod ei dad wedi gyrru yn erbyn coeden.

Ond wrth i ni bwyso a mesur, ni ddylem ni ddangos unrhyw ddiffyg cydymdeimlad.

Yn y diwedd, i Gymro Cymraeg, cydymdeimlad oedd y ffrâm meddwl briodol.

Dim cymorth, dim cludiant, dim cyngor, dim cydymdeimlad.

Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.