Roedd y plant, mab a merch, wedi aros ar ddi-hun, nid i geisio dal Sion Corn ond i weld os oedd asyn y teulu'n cydymffurfio â'r stori.
Mae'r safle'n cydymffurfio â meini prawf y pwyllgor gwyddonol.
Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.
Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.
Os bydd BAe yn cydymffurfio âr meini prawf, yna mi gawn nhw'r grant.
Cydymffurfio a'r patrwm yn unig a wna'r gwirionedd rhannol yma mae'n anelu ato.
Yn Hemingway, gwelai Fidel 'anturiaethwr yng ngwir ystyr y gair - rhywbeth hardd gan ei fod yn ddisgrifiad o ddyn nad yw'n cydymffurfio â'r byd ac sy'n gweld dyletswydd i'w newid'.
Y mae'r Eglwys Gristionogol ym mhob cyfnod yn talu pris uchel am golli cysylltiad â'r werin ac yn arbennig felly pan fo gofynion parchusrwydd yn peri condemnio gweithwyr eiddgar yn unig am nad ydynt yn cydymffurfio mewn iaith, ymddygiad a gwisg â'n safonau artiffisial ni.