Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfaddef

cyfaddef

Rydych chi'n llawer mwy tebygol o'i gweld yn crwydro caeau Pontcanna yng nghwmni Fudge ei chi, ac mae'n cyfaddef, peate'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n rhannu ei chartref gyda mwy na Fudge a'i gwr, sy'n ddyn sain.

Ond rhaid cyfaddef hefyd nad yw adeiladau marmor ymysg y pethau sy'n fy ngwefreiddio.

Mae wedi cyfaddef hynny ei hun; ond dim ond yn rhannol.

Rhaid cyfaddef nad ydym yn cael cnwd trwchus ers rhai blynyddoedd bellach ac mae'r sawl sydd yn barnu eu bod yn gwybod, yn beio'r effaith tþ-gwydrol y mae llygredd y Ddaear yn ei gael ar y tywydd, am hynny.

A ph'run bynnag, mae Preis wedi cyfaddef ei fod wedi cael cadwyn gwerth pum cant o bunnau ganddynt am eu helpu.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Mae'n rhaid cyfaddef mai adar digon brithion oedd y rhain ac, fel cynifer o uchelwyr oes Elisabeth, yn fachog am diroedd ac eiddo.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.

Mae'n rhaid cyfaddef fy mod wedi cael pwl o hiraeth i weld teulu a ffrindiau yn ddiweddar, felly doedd dim amdani ond pacio bag ac estyn am y pasport.

Rhaid cyfaddef fod y ci yma nawr rywsut yn clytio peth ar ei unigrwydd chwithig ar ol colli'i wraig.

Serch hynny, i fudiad a froliai ei fod yn anelu at chwyldroi amgylchiadau cynhaliol yr iaith Gymraeg, rhaid cyfaddef mai gwendid oedd y diffyg canolbwyntio ar syniadaeth.

Dyma ni 'ta þ yr eli ar y dolur o orfod cyfaddef nad ydi chwerthin yn fêl i gyd er y gall, ar adegau, fod yn ffisig da.

Mae Cronje ei hun wedi cyfaddef iddo gymryd arian oddi wrth fwci ar fwy nag un achlysur.

Rhaid cyfaddef 'mod i'n credu ar y pryd mai celwydd golau oedd y stori hon am gwmni'r Bolshoi.

Bu ef ei hyn yn rhyw dipyn o fardd, ond un dieneiniad, braidd, rhaid cyfaddef.

Ond dydi bod yn Gymro da yn rhywle fel Bradford yn dda i ddim.' ' Mae'n cyfaddef nad peth hawdd o gwbl fu bod yn Gymro Cymraeg yn y Brifysgol ym Mangor yn ystod y blynyddoedd diwethaf: " Mae 'na adega' annifyr iawn wedi bod yn y coleg yma, er bod petha'n well dan y drefn newydd.

Ond wedi dweud hynny, rhaid cyfaddef hefyd nad ydir Cynulliad ei hun wedi bod y peth mwyaf trawiadol yng Nghymru hyd yn hyn.

Er i mi gael addysg amaeth wyddonol rhaid cyfaddef fy mod yn cymryd cryn sylw o natur a'r hen ddywediadau.

I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.

Bardd ydy o.' Er cyfaddef fod serch a ffydd yn croestynnu, mae Saunders Lewis yn dangos fod cyfaddawd yn bosib rhyngddynt.

Ac - roedd Dafydd Morgan Lewis hyd yn oed yn cyfaddef - yn gynnes.

Yn dilyn agoriad mor arbennig fe geir tair o ganeuon Saesneg, ac mae'n rhaid cyfaddef fod rhain yn dueddol o atgoffa rhywun fwy o'r hen Gwacamoli.

Y Tywysog Charles yn cyfaddef ar y teledu ei fod yn siarad gyda phlanhigion.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Rhaid cyfaddef fod ôl brys ar y pum pennod cyntaf.

A rhaid cyfaddef mai dipyn o gamel fu+m i am nifer o flynyddoedd - yn byw allan o'r bag oedd gen i ar fy nghefn ac yn symud o fan i fan byth a beunydd.

Ond nid mewn unrhyw ysbryd bygythiol, mae'n rhaid cyfaddef.

Ond mae gwaeth i ddod, pan yw'r offeiriad lleol yn cyfaddef mai ef yw'r tad!

Mae'n cilio oddi wrth glybiau gwyllt y ddinas ac yn cyfaddef mai creadures digon cartrefol yw hi.

Byddai wedi bod wrth ei fodd yn eu cael, ond nid oedd dim amdani ond cyfaddef nad oedd ganddo ddimai goch i'w prynu.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Yr oedd hi'n waeth byth gorfod cyfaddef eu bod yn llygad eu lle.

Beth bynnag yw'r esboniad rhaid cyfaddef bod rhyw sail yn fynych i gred y cyhoedd, ac y mae'r uchod yn un o'r posibiliadau.

Mae'n rhaid cyfaddef, er hynny, fod safon poriant y tir yn well o dipyn ar Moel Hebog.

Petai'n onest, pa lenor o Gymro na fyddai'n cyfaddef iddo gael ei demtio i sgrifennu yn Saesneg am ryw reswm neu'i gilydd?

Erbyn hyn, penderfynwyd na châi erlyn ddim pellach oherwydd iddo gael ei garcharu am oes am y llofruddiaeth: fe'i galwyd yn dyst yn erbyn Sidley, nad oedd eto wedi cyfaddef i ddim.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.