Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfaill

cyfaill

Rydan ni wedi cael tri Sul mewn tri diwrnod meddai cyfaill wrthyf ar ol oedfa'r nos.

Y sêr yn y ddrama oedd cyfaill da imi, John Ogwen gyda'i wraig Maureen Rhys, ac yn un o'r golygfeydd roedd bron yr holl gymeriade yn sefyll ar bont ac yn canu'r anthem genedlaethol.

"I ble?" fyddai cwestiwn y cyfaill.

Fe ofynnodd y cyfaill hwn i'r llythyrwr ddewis pump o lyfrau Cymraeg iddo'u dwyn gydag ef, i gadw'i Gymraeg a'i Gymreigrwydd yn fyw.

Brodor o Batagonia oedd y cyfaill hwn, yn ŵr o ddiwylliant eang ac yn un a anwylid gan bawb.

Tynnodd cyfaill fy sylw at lun yn y Rhondda Leader o ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur y Rhondda gydag asyn.

Marwolaethau: Wedi gwaeledd hir, bu farw'r cyfaill William Tudur Rowlands, Argoed, Ffordd Garth Uchaf.

Yn ei waith fel amaethwr - y cofiwn Y cyfaill di-gynnwr'; Fel cloc rowndio'r stoc heb stwr A wnaeth nes methu neithiwr.

rhedodd y tri, gethin yn gyntaf, o amgylch coed a dyfai ar y lan i weld a oedd eu cyfaill yn ddiogel, ond erbyn iddynt ddod i olwg y gangen drachefn nid oedd ffred i 'w weld yn unman unman ffred !

Safodd y dynion yn stond i wylio'r garafa/ n yn ymadael cyn troi i geisio trin clwyf eu cyfaill.

Ymhen rhai oriau o ffonio, mae'n cyfaill yn clywed llais bach tawel ar ben arall y llinell.

Ond pennaf cyfaill ei dad yn Llanelli oedd Dr Gwylfa Roberts, gweinidog Tabernacl, Llanelli a bardd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Felly, pa bwrpas fyddai yna i fynd â chi i'r llys?'' eglurodd cyfaill.

Jenkins mai cyfaill iddo a glywodd yr 'ymgom hynod fer' rhwng y 'Doctor o Faconia' a'r Cenedlaetholwr o Gymro, a digon posib' mai Bebb ei hun neu Saunders Lewis oedd y Cenedlaetholwr.

Yn un â'i bobl fel eu cyfaill a'u brawd, cyfunwyd yma fotifau'r kpr a'r g'l.

Cyfaill dall wrth f'ochr fel petai'n teimlo taith yn ymagor o'i flaen fesul milltir.

Paid â gwrthod, was i ne cinio digalon fydd o i mi." Diolchais yn gynnes i'm cyfaill, yn fwy felly gan nad oedd gennyf olwg am fawr o ddim amheuthun fy hun.

Ond mynnodd y siopwr mai ei ddyletswydd ef fel cyfaill a Christion oedd peidio â gwerthu iddo rywbeth nad oedd arno mo'i angen.

Fe ddywedodd cyfaill am un arall o'r gohebwyr tramor mawr, Nicholas Tomalin, ei fod yn `sgrifennu damhegion a gadael i eraill greu'r credo'.

Er mwyn cael cydweithrediad ac ymateb gennym ni, y gynulleidfa, rhaid oedd i gari uniaethu â ni, ein gwneud yn gartrefol a'n cael i'w dderbyn fel cyfaill yn hytrach nag actor/comediwr y sgrîn.

Yn sydyn dyma rhywun yn gafael yn fy mraich a llais yn dweud 'Come with me I need you urgently' Derek Laws oedd yno sef prif swyddog y Swyddfa Ganolog yng Nghaerdydd, cyfaill a gŵr yr oedd gennyf barch mawr iddo.

Ond fel pob cyfaill dydi CySill ychwaith ddim yn berffaith.

Eisteddwn wrth dân y gegin yn ysmygu, ac yn dyfalu beth a ddaethai o'm cyfaill Williams.

Anfonodd i'r Hen Wlad am lyfrau clasurol Cymraeg a Saesneg, i mi, pan aeth cyfaill oddi yma am dro yno.

Gelwid ef yn Maecenas - yn noddwr llenyddol a chynghorwr - gan ei gâr William Vaughan o Gorsygedol, cyfaill mawr Ben Johnson.

Clywir anogaeth, er gwaethaf duwch iselder, i ddal ati, i geisio cymorth cyfaill, ac i gofio'n fwy na dim, bod pawb yn brifo weithiau.

"Yr oedd ysgrifenwyr Cymraeg megis wedi colli'r ffordd; a chafodd ein cyfaill hyd iddi," ebe John Morris-Jones am Owen Edwards, wrth sôn am yr amser pan oedd yn dechrau ysgrifennu yn Rhydychen.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

Awgrymodd cyfaill, Clustfeiniad - ond dydw i ddim yn siwr.

'Cyfaill gorau dyn,' meddir, 'yw'r ci.' Onid 'gwas gorau dyn' oedd y ceffyl?

Y tro cyntaf ers blynyddoedd i rywun ddweud wrthaf fi eu bod nhw'n fy ngharu ac maen gwneud fy nghyfrifiadur in honco, meddai cyfaill a agorodd ei neges RWYNDYGARUDI ddydd Iau diwethaf.

Cafodd y geiriau eu hysgrifennu fel ymateb greddfol pedwar cyfaill i hunanladdiad Kurt Cobain o'r grwp Nirvana.

Daw'n amlwg yn y man fod y cyfaill hefyd yn fab i un o'r troseddwyr Natsi%aidd, ond y mae ef wedi diarddel ei dad, yn wahanol i'r adroddwr, sy'n mynnu cadw cyfrinach ei dad er ei fod yn llawn sylweddoli difrifoldeb ei droseddau.

Stopiodd un cyfaill ac arwyddo i ni aros, a bod yn ddistaw.

'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.

I ffwrdd â ni wedyn y tu ôl i un o'r tomennydd coed, a mwynhau smôc bob un cyn i'n cyfaill 'diflanedig' ailymddangos.