Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfamser

cyfamser

Yn y cyfamser, cyfarwyddwn y senedd i ddosrannu'r gwaith rhwng y swyddogion presennol.

Yn y cyfamser gwenodd yn swynol ar feistr y tþ, a moesymgrymodd cyn ymadael i fynd i'r boudoir a neilltuolwyd i'r merched.

Yn y cyfamser, trodd ein sgwner i gyfeiriad bae bychan ar ynys y tu ôl i'r mynydd tanllyd roedden ni newydd ei ddringo.

Yn y cyfamser, roedd yr wythnosolion Cymraeg yn barod i gyhoeddi defnydd y Blaid, ac yr oedd gan dri golygydd gysylltiad agos a'r blaid - Meuryn, Prosser Rhys, (Y Faner) a Dyfnallt Owen (Y Darian), yr olaf o bapurau Cymraeg De Cymru.

Ond yn y cyfamser, i roi halen ar y briw, bydd gwrandawiadau yn erbyn Moore a Jenkins yn digwydd rywbryd yn ystod yr wythnos hon.

Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.

Yn y cyfamser þ criwch a byddwch iach.

Yn y cyfamser fe fydd Stereophonics yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar y pumed ar hugain o Fawrth.

Yn y cyfamser bodlonai ar gerdded a jogio, gan dynnu allan wedi iddi dywyllu.

Yn y cyfamser, mae Siwsan Jablonski yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r Siwsan arall.

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn trefnu i gyfarfod y ddwy ochor ac yn gobeithio y gall llu rhyngwladol gadw golwg ar y sefyllfa.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Yn y cyfamser, fel y bu ers degawd a mwy, roedd miliynau o hil y caethweision yn marw o newyn ar wastadeddau sychion Eritrea a Somalia.

Yn y cyfamser mae pethau ofnadwy'n digwydd i'r corff.

Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

Yn y cyfamser, dywedodd Prif Weinidog Israel Ehud Barak nad oedd cyfarfod Arlywydd Clinton yn debyg o arwain at fwy o drafodaethau âr Palestiniaid.

Yn y cyfamser, 'roedd nhad yn awyddus iawn i brynu set

Yn y cyfamser, mae yna waith manwl wedi bod yn digwydd ar ddiffnio rhannau o'r Ddeddf Iaith gyda chyfreithwyr ar ran y Bwrdd a'r Swyddfa Gymreig wrthi.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

Yn y cyfamser, heblaw am gyfri'i arian bob dydd Sadwrn a gwrando ar hanesion ei ffrindiau, benthycai lyfrau yn ymwneud â chŵn o'r llyfrgrell a'u darllen o glawr i glawr.

Yn y cyfamser roedd Janice wedi cael ei hachub gan dynfad.

Yn y cyfamser mae Mr Hughes yn galw cyfarfod brys i drafod problem cyffuriau'r ysgol.

Yn y cyfamser enillodd The Deadness of Dad wobr am y Ffilm Fer Orau yng ngwobrau ffilm BAFTA UK.

Yn y cyfamser yn Llundain, mae Simon Thomas aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi galw am weithredu'n erbyn cnydau GM - ond nid yn erbyn safle Sealand ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, bu morwr a oedd yn wael cyn gadael y llong, farw y noson gyntaf ac ychydig ar ei ôl bu farw dau arall.

Yn y cyfamser ewch draw i dudalen y gigs ar gyfer y manylion diweddaraf ynghylch taith Gwacamoli.

Yn y cyfamser gobeithio fod rhywun tua Llanfair caereinion yn mynd ati i gadw eisteddfod y flwyddyn nesaf, fel y cedwir y ffin tua'r dwyrain.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mynnai Arabrab fod Ynot yn cysgu gyda hi bob nos, a rhaid oedd iddo yntau ufuddhau er bod ei hystafell wely a phob peth ynddi, a phawb ond Ynot ei hun yn drewi o wynwyn.

Roedd eisiau i bawb fynd adref a chofio dychwelyd drannoeth, ac yn y cyfamser gofynnodd iddynt i gyd, bob wan jac, i weddio ar Allah i roi nerth o'r newydd i'r reslwyr lleol.

Yn y cyfamser cyrhaeddai cardiau cyfarch o wahanol leoedd gan y staff a oedd ar eu gwyliau.

Fedrwn ni ond gobeithio y bydd cerddoriaeth o'r fath yn cyrraedd y siopau'n eithaf buan ond, yn y cyfamser, fe fydd Gang Bangor yn ei chwarae byth a beunydd, a does gennym ni ddim bwriad ymddiheuro am hynny.

Yn y cyfamser 'roedd darlledu sain yn cyrraedd y rhan fwyaf o gartrefi.

Yn y cyfamser mae'r bobl leol i gyd yn dechrau cyrraedd gan greu cylch naturiol yn y tir sych drwy sefyll neu eistedd mewn cylch o amgylch y ring.

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

Yn y cyfamser mae Bayern Munich wedi cael hwb i'w gobeithion.

Yn y cyfamser, roedd MasCanosa yn pwyso ar Gyngres yr Unol Daleithiau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i is-gwmnËau Americanaidd mewn gwledydd tramor fasnachu â Cuba.

Mae Geraint yn ymbaratoi i ddychwelyd i Gaerllion gydag Enid, ond yn y cyfamser mae llys Arthur wedi bod wrthi'n dilyn yr helfa.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Braf fyddai clywed mwy o waith Tefolon Monkey a dweud y gwir; ond yn y cyfamser ‘rydym yn siwr o chwarae tipyn ar Y Mudiad ar raglenni Gang Bangor.

Yn y cyfamser llwyddodd Rhian i gael ei Haelod Seneddol i gefnogi achos Lewis ac i wneud hynny'n effeithiol.

Ond yn y cyfamser, 'roedd pobl wedi tyrru i'r groesfan orllewinol.

Yn y cyfamser dilynodd y mwyafrif Rowland a Williams.

Yn y cyfamser digwyddodd sawl peth.

Yn y cyfamser 'roedd rhai o'm ffrindiau wedi bod yn lwcus ac wedi cael llong.

Yn y cyfamser cafwyd blas ei argyhoeddiadau protestannaidd.

Yn y cyfamser, roedd y galwadau'n cynyddu o du cymdeithasau a chwmni%au drama lleol, a'r sgrifennu'n cael ei wneud yn oriau mân y bore ar ôl gorffen gwaith y dydd yn y garej.

Yn y cyfamser bu ysgrifennu helaeth ar gyfnod Christmas Evans a daeth llawer o wybodaeth newydd i'r fei.

Yn y cyfamser roedd ein haddasiad o Cancer Ward Solzhenitsyn ar gyfer Radio 3 yn un o'r dramâu radio a ddenodd y ganmoliaeth uchaf yn ystod y flwyddyn.

Ond yn y cyfamser trefnodd Pengwern ei hun i Lewis Evans ofalu am y lle a chadarnhawyd hynny.

Yn y cyfamser, fedri di orchymyn gwneud pibell hir o efydd fel y medrwn ni siarad hefo'n gilydd yr adeg hynny heb i'r Coraniaid glywed?

Yn y cyfamser, cafodd brofiad fel athro ysgol a gweithiwr cymdeithasol yn Lerpwl cyn ei benodi i staff y Western Mail yng Nghaerdydd.

Yn y cyfamser, er ein bod ni'n gwybod nad oeddem yn cario dim anghyfreithlon i mewn, 'roeddem yn chwysu wrth feddwl beth allent wneud â ni.

Yn y cyfamser, mae'r Gweriniaethwyr yn pwyso am gyhoeddi canlyniad unwaith y bydd y pleidleisiau post wedi eu cyfri.

Yn y cyfamser daeth Pennaeth yr Heddlu a'i ferch i'r bar karaoke.

Yn y cyfamser mae Caerdydd wedi enwi 14 chwaraewr ar gyfer y gêm yn erbyn y Saracens.