Buont yn boblogaidd ar y Cyfandir ymhell cyn hyn, yn Zurich yn amser Zwingli ac yn Strasbourg ar ôl hynny.
Amlwg iawn yw'r elfennau sylfaenol hynny yng nghyfansoddiad y teulu sy'n adlewyrchu delfryd bonheddig yr oes yn Lloegr ac ar y Cyfandir.
Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.
Hwn oedd ein hymweliad cyntaf â'r Cyfandir Tywyll.
Wedi teithio'r Cyfandir y daeth O'r Bala i Geneva a Tro yn Llydaw.
Hawlia rhai ohonynt le anrhydeddus iawn yn hanes y deyrnas, ac y mae cysylltiad agos rhyngddynt ac enwau gwroniaid a harddodd enw Prydain yn llysoedd y Cyfandir ac ym mhellteroedd byd.
Soniodd lawer wrthyf am y wefr a gawsai o forio 'rownd y byd', er iddo fy ngadael mewn peth dryswch pan hysbysodd fi, 'Rydw i wedi bod ar y chwe cyfandir bellach.'
Mae ei wybodaeth ddiwinyddol yn hynod eang, er mai ei hoff awdurdodau oedd diwinyddion Calfinaidd y Cyfandir.
A brawddeg fawr ydyw: pan gnulia'r gloch, meddai, na ofynnwch am bwy, canys mae'n cnulio amdanoch chwithau hefyd, oblegid nid rhyw ynys ddigyswllt yw dyn, ond cyfandir, ac megis ag y mae'r cyfandir ychydig yn llai am bob torlan ohono a syrth i'r môr, felly ninnau, canys gyda phob un a gollir y mae rhywfaint ohonom ninnau hefyd wedi ei golli.
tybed a fydd yr ysbryd prydeinllyd a gafwyd gan chwaraewyr cymru yn ennill y dydd ar draul medr dechnegol fel a welwyd gan y tîm o'r cyfandir?
Hedfanwch mewn Volvo ar eich gwylie nesaf i'r cyfandir, efallai?
Y mae cyfandir mawr yn agor o'n blaen.
Fel arfer bydd yno hefyd ddosbarthiadau ar gyfer bridiau eraill a ddatblygodd dros y ffin,m ar y cyfandir neu hyd yn oed medwn rhannau eraill o'r byd erbyn hyn.
Dyma un o themâu pwysicaf hanes modern ein cyfandir.
Byddai ganddi'r gallu i fwydo'r cyfandir cyfan pe bai'n cael cyfle i ddatblygu i'r cyfeiriad iawn.
Ni chawsom wyliau yr haf hwnnw, felly dyna benderfynu'n sydyn y buasai pythefnos ar y cyfandir yn gwneud lles i ni er ei bod yn ddiweddar yn y flwyddyn.
Yno enillodd wobr Prix de Rome i deithio'r cyfandir.
Un dydd, hanner ffordd trwy'r ymweliad, sefyll am ychydig funudau ar y briffordd lydan sydd, yn y pen draw, yn sgubo trwy ogledd y cyfandir o Berlin i Helsinki.
Un elfen arall gyffredin: yr oedd y genhedlaeth newydd hon o feirdd yng Nghymru yn wŷr llydan eu diwylliant a'u darllen, ac yr oedd rhai ohonynt wedi teithio ar y Cyfandir.
Gan fod y gylfingroes yn hoffi byw a bwydo mewn coed conwydd, gellir gweld heidiau ohonynt pan geir gorlifiadau po rhyw dair blynedd o'r cyfandir.
Yn un peth yr oedd Pabyddion y Cyfandir, rhai Sbaen yn neilltuol, yn chwythu bygythion.
Peth ofnadwy yw bod yn anwaraidd, yntê, ond wrth gwrs mae tylwyth y Buganda yn adnabyddus am ei ddulliau modern ynghanol cyfandir heb ei lwyr wareiddio.
ar ôl ei siomi yng ngwlad ei enedigaeth, trodd david hughes ei wyneb tua'r cyfandir ; aeth i ffrainc yn gyntaf, lle cafodd groeso yn syth.
Cyfarfu ag ef pan oedd ar daith ar y Cyfandir yng nghwmni ei gyflogwr enwog, Iarll Arundel.
Rhaid cofio, er yr holl son am aur yn y cyfandir pell, bod cryn ragfarn ynglyn a'r fordaith i Botany Bay.
Yn y blynyddoedd enbyd hyn, yr unig ddihangfa i Brotestaniaid blaengar oedd ffoi am loches i ddinasoedd Protestannaidd y Cyfandir.
Cymry, nid ymwelwyr o'r Cyfandir wedi newid eu gwisg, yw'r cymeriadau.
Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.
Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!
Ond ar y cyfandir y gwnaed y defnydd mwyaf ohono.
mae'n eitha posib, fodd bynnag, y bydd y gymdeithas yn edrych tua'r cyfandir am y rheolwr nesaf.
Diflannodd ffermio cymysg traddodiadol a ganed 'agri-business' - o leiaf mewn rhannau helaeth o Brydain, y Cyfandir a'r Amerig.
Yn hytrach na ffynnu i fod yn Awstralia America Ladin, roedd y wlad wedi dirywio cymaint nes ei bod yn cael ei hadnabod fel Albania'r Cyfandir.
Ledled y byd mae dwsinau o frwydrau o'r fath, a phobl ar bob cyfandir yn ymladd am fuddugoliaeth i'r diwylliant 'gorau'.
Bydd enillwyr y cynghrair arfaethedig - a phencampwyr Cymru felly - yn gymwys i gynrychioli ein gwlad ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed y cyfandir, sef Cwpan Ewrop.
Wedi i'r Rhufeiniaid ymadael â Phrydain, daeth goresgynwyr eraill o'r cyfandir, sef y Sacsoniaid.
Fel Elfed a Robert Bryan, edrychodd yntau tua'r Cyfandir.
Anaml y gwelid amaethwyr y gorffennol yn mynd oddi cartref am ddiwrnod neu ddau, ond erbyn hyn, daeth mynd ar wyliau yn beth cyffredin - ac ambell waith i'r cyfandir.
Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.
Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.
Diolch, ddyweda i, fod sefydliadau cyfandir Ewrop wedi hen hen ddygymod â chymunedau sy'n siarad mwy nag un iaith, a hefyd cyn hyn, droeon, wedi cyhoeddi dyfarniadau yn erbyn y Sefydliad yn Llundain.
Mi fydd yn rhaid inni eich cadw'n ddiogel am 'chydig o ddiwrnodau.' Rhoddai yr argraff ei fod yn ddyn ifanc caredig iawn ond ni wyddai Glyn ei fod yn edrych ar un o smyglwyr cyfrwysaf y cyfandir.
"Mi wn am westy rhagorol, lle bydd digon o groissants breuaf a mwyaf blasus y cyfandir ar gael!