Mae'n anodd meddwl am neb a fuasai'n awyddus i hawlio'r cyfansoddiadau hyn fel ei waith personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp, dysgodd y Meudwy drwy brofiad chwerw, mae'n rhaid, y dylai ddiogelu ei gynhyrchion, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationer's Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr awdur' ar bob un o'i lyfrau.
Dydd Sadwrn oedd y diwrnod olaf i dderbyn y cyfansoddiadau a gwyddwn i fod Llew yn brysur yn ysgrifennu ei nofel gyntaf; ond pan euthum heibio dydd Sadwrn nid oedd yn barod, ac ni fyddai tan y dydd Mercher canlynol.
Prin yr oedd yr Archdderwydd wedi cyhoeddi enw bardd y gadair nad oedd rhai o swyddogion y Cyngor yn gwerthu o gwmpas y Pafiliwn gopïau o gyfrol y cyfansoddiadau buddugol.
Galw heibio pabell yr Undeb am baned a phrynu copi o'r Cyfansoddiadau buddugol.