Nid yw hyn yn ein rhwystro rhag gofyn a all cyfansoddion carbon gael eu defnyddio i ffurfio organebau byw mewn dulliau gwahanol i'r rhai naturiol.
Cesglir felly mai carbon yn unig all ffurfio cyfansoddion digon cymhleth i gynnal bywyd fel yr adwanwn ni ef.
Wrth feddwl bod yn rhaid i doddiant addas ymateb i'r holl ofynion hyn, a hynny i gyd ar yr un pryd, ychydig iawn o bosibiliadau sy'n bod ymhlith y cyfansoddion cemegol sy'n wybyddus ar y planedau, y meteorau a'r comedau.
Y mae enghreifftiau o fewn rhai systemau bywyd lle mae cyfansoddion neilltuol wedi eu disodli gan rai eraill nad ydynt yn rhai naturiol, heb amharu ar weithgarwch yr organebau.