Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith.
Mae'n rhaid i'r Cynulliad fod â llais Cymraeg ei hun, fel y bydd, wrth agor ei ddrysau am y tro cyntaf, yn cyfarch pobl Cymru drwy ddweud 'Bore da, ac mae hi'n fore da iawn yng Nghymru!'.
Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.
Yn y cyfamser cyrhaeddai cardiau cyfarch o wahanol leoedd gan y staff a oedd ar eu gwyliau.
Cwynai'r Iddewon fod nifer o Balestiniaid, wedi i'r Scuds ddechrau cyrraedd, yn hepgor y 'bore da' arferol ac yn cyfarch ei gilydd trwy ddweud 'Bydded i Dduw roi buddugoliaeth i Saddam'.
Byddant yn cyfarch y cyfarfod am 7.30 Nos Wener yn yr Hen Neuadd yr Hen Goleg.
Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.
Yna am dri o'r gloch - y Brenin Sior V yn cyfarch ei ddeiliaid, ac Ifan a'i dad a'i fam, ei fodryb Lydia a minnau yn gwrando'n ddistaw fel llygod.Drwy ein plentyndod hapus treuliodd Ifan, Eric a minnau y rhan fwyaf o'n hamser yn chwarae, un ai ar lan y mor neu ar lan afon Soch.
(Gweler erthygl Jane Cartwright yn y rhifyn hwn.) Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol fod y bardd yn cyfarch Mair, fel petai'n ymuniaethu â hi yn ei galar am ei mab cyn agor Ei fedd yntau.
Y sefyllfa arferol yw dosbarthu un copi cyfarch i bob ysgol gyda chopi%au pellach yn cael eu gwerthu am yr un pris ag adnawdd tebyg yn y Saesneg.
Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.
Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.
Ac ar ol iddi eu cyfarch yn ei ffordd glen arferol, ymlaen a hi gan adael distawrwydd unwaith eto a chrechwenau awgrymog.