Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfarfodydd

cyfarfodydd

Peth arall a nodwedda y cymdeithasau hyn, a hon fel y rhelyw ohonynt, bod y cyfarfodydd yn hynod o rydd a theuluaidd.

Cynhelir cyfarfodydd heddiw rhwng clwb Hoci Iâ Devils Caerdydd a Phrif Gynghrair Hoci Iâ Prydain i geisio penderfynu dyfodol y tîm.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfarfodydd pan na fydd ond ychydig o bobl yn cymryd rhan yn Gymraeg.

Yn y cyfarfodydd hyn daw nifer fawr o bobl ieuanc i gyfathrach agos iawn â'i gilydd.

Bum mewn cyfarfodydd pregethu yno amryw o weithiau yn gwrando ar rai o'r "Hoelion Wyth" a'r capel yn orlawn, a chanu bendigedig er nad oedd offeryn yno'r pryd hynny.

Y prif awdurdod ynddo oedd y Gynhadledd a gyfarfyddai unwaith y flwyddyn yn ystod y Cyfarfodydd Blynyddol.

Yn un o'r cyfarfodydd hyn yr enillodd Watcyn Wyn un o'i wobrau cyntaf, a hynny am bryddest o bopeth, ar y testun 'Dafydd yn Lladd Goleiath'.

Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.

Yn ystod ei thair wythnos ym Mhrydain bu Justine Merritt yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberystwyth a Bangor.

Yr oedd y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn cymedroli eu cynulleidfaoliaeth trwy ffurfio cyfarfodydd chwarter a chymanfaoedd neu trwy ymestyn awdurdod y rhai oedd eisoes mewn bodolaeth.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Gellir cynnal astudiaethau, cyfarfodydd gweddi a nosweithiau cymdeithasol yn yr ystafelloedd eraill.

CYTUNWYD foddbynnag y byddai'n ofynnol i Gadeirydd y pwyllgor hwnnw fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol.

O flaen porth yr eglwys ac ar gongl yr hen fynwent y codwyd cofgolofn y milwyr, a chofir yr aberth drud hwnnw o hyd mewn cyfarfodydd crefyddol ar Sul y Cadoediad.

Nodwedd arbennig y cyfarfodydd hyn, fel ym mhobman yng Nghymru ar y pryd, oedd fod pobl yn cymryd rhan yn ddigymell, llawer ohonynt yn bobl nad oeddent wedi cymryd rhan yn gyhoeddus erioed o'r blaen.

Ni chofiai iddi erioed weld yr un ohonynt, gan na fyddent byth yn siopio'n y pentref nac yn mynychu cyfarfodydd.

Argymhellwyd yn y cyfarfodydd hynny i dderbyn y polisi%au yn ddarostyngedig i rhai mân newidiadau.

Mae ymgyrchydd iaith amlwg wedi galw ar i Fwrdd yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddi cylchlythyron newyddio i roi gwybod i bobol Cymru beth sy'n digwydd ynglŷn â'u gwaith.

Mynychwyd cyfarfodydd o Gyngor Cwricwlwm Cymru, pwyllgor hyfforddiant cychwynnol a mewn-swydd a phwyllgor llywio'r Gymraeg gan y Cyfarwyddwr; cynrychiolwyd PDAG ar nifer o bwyllgorau llywio eraill y cyngor gan addysgwyr y Gymraeg.

Dywed: 'Wedi tipyn o ymholi cefais y llyfr cyntaf, llyfr du welais yn y cyfarfodydd lawer gwaith.

CYFLWYNWYD, cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion cyfarfodydd o'r Pwyllgor Iechyd a Thai a gynhaliwyd ar:-

Trwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Adran Wasanaethau Cymdeithasol sicrheir bod prosiectau yn cael eu monitro.

Y trefniant oedd fod y cyfarfodydd chwarter yn enwebu rhai ar gyfer y swydd.

yn y cyfarfodydd adborth cadarnhawyd y teimlad hwn er na fynegwyd yr un pryder ynghylch cymraeg ail iaith ].

ch) Siarad am CYD mewn cyfarfodydd o ganghennau Merched y Wawr a chymdeithasau eraill er mwyn creu cysylltiad agosach rhwng Cymry Cymraeg a dysgwyr.

Rhaid cofio beth sy'n digwydd mewn cyfarfodydd â chyfieithu ar y pryd lle nad yw'r siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif, yn enwedig pan nad ydy'r cadeirydd yn ymwybodol o sut i roi chwarae teg ieithyddol.

Y mae'r dosbarth cyntaf yn cynnwys cyfarfodydd a chynadleddau, dadorchuddio cofgolofnau a gwrthdystiadau ffurfiol.

Bu cyfarfodydd swyddogol a'r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal a chyfarfodydd hanner blynyddol CCPC.

Yn gymdeithasol, mae taith fel hon yn ddigon gwahanol i'r patrwm cymdeithasol arferol, gyda'r gwahoddwyr yn amal yn hawlio ein presenoldeb mewn cyfarfodydd, derbyniade ac achlysuron swyddogol.

Deuent i'n Cyfarfodydd Cyffredinol a'n Ralïau yn gyson.

Roedd yn hanfodol fod y gwaith a wneid yn y grwpiau, a rhwng cyfarfodydd, yn cael ei ddyblygu, a chofnod yn cael ei gadw o'r penderfyniadau lu.

Gwelodd y grwpiau athrawon a oedd yn gwbl ddibynnol ar eu hadnoddau eu hunain (i drefnu dyddiadau a mannau cyfarfod, dyblygu a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd, meysydd llafur a phrofion drafft, etc.) yn eithaf buan ei bod yn amhosibl iddynt barhau.

Y flwyddyn honno yr oedd cyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr yng Nghaergybi.

Ar adegau cyhyrfus, fel bygythiad y Bom-H neu Ryfel y Culfor, yr oedd caredigion heddwch yn closio at ei gilydd ac yn ymuno mewn cyfarfodydd a phrotestiadau.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Wrth lansio'r ddogfen bydd y Gymdweithas hefyd yn rhyddhau ffigurau manwl sy'n dangos fod dirywiad wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg ar lawr y Cynulliad ei hun (nid yw'n bosib gwneud dadansoddiad o'r defnydd o'r Gymraeg yn y cyfarfodydd pwyllgor).

Manteisiodd llawer gŵr ifanc uchelgeisiol ar y cyfarfodydd hyn.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

bu'n llafurio'n gyson o blaid heddwch am flynyddoedd cyn hynny, gan deithio o amgylch y wlad i ddarlithio ac annerch cyfarfodydd yn aml.

Mae'r nifer fawr o gyfarfodydd gweddi a gynhelir bob nos, a'r cyfarfodydd pwnc yn cael effeithiau drwg.

Yr oedd Cyngor yn cynrychioli'r cyfundebau (sef y Cyfarfodydd Chwarter, i roi'r enw swyddogol arnynt) a hwnnw'n atebol i'r Gynhadledd.

Yr oedd y cyfarfodydd yn parhau am tua dwy awr a hanner.

Yn hwnnw eglurwyd pa gyfiawnhad Beiblaidd oedd tros gynnal cyfarfodydd o'r fath ac esboniwyd mai "canu mawl a gweddi%o% ac "agoryd ein calonnau i'n gilydd" oedd i ddigwydd ynddynt.

Cymerwn ran amlwg yn y cyrddau hynny, dechrau'r cyfarfodydd, annerch a hyd yn oed pregethu.

Cynhaliwyd cyfarfodydd.

Ymrwymiad i gynyddu nifer cyfarfodydd cyhoeddus yr Awdurdod ar hyd a lled Cymru.

Mae'r ddogfen yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i weithredu yn ddwyieithog cyn, yn ystod ac ar ôl cyfarfodydd pwyllgor.

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

Cliciwch yma am grynodeb o fusnes cyfarfodydd diweddar o'r Cyngor.

Tra bu+m yn fyfyriwr ym Mangor bum am gyfnod yn cynorthwyo JE a Phwyllgor Sir Gaernarfon i drefnu cyfarfodydd cyhoeddus yma a thraw yn y sir.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Yn ystod yr helyntion diweddar yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin meddai un o'r cynghorwyr ei bod hi'n 'anghyfreithlon' cynnal cyfarfodydd cabinet yn Gymraeg.

Nid peth dieithr o gwbl oedd cael Neuadd Powis yn orlawn i'r cyfarfodydd.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Glywis i Tada'n sôn yn amal am y cyfarfodydd y bydd o'n mynd iddyn nhw yn y Pafiliwn,, ond tan heddiw 'ma do'n i ddim yn ei gredu o 'i fod o mor fawr.

Ers rhai misoedd bellach rydym wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd bob nos Lun yn syth ar ôl ysgol, (ar wahân i ddwy wythnos pan anghofiodd Mr Hughes amdanom ni, a pheidio â dod.

Gwedd arall ar y brwdfrydedd ym Mhwllehli oedd mynd â'r cyfarfodydd y tu allan i'r addoldai.

Bu Clwb Ffermwyr Ieuainc ym Mynydd Nefyn a chynhelid y cyfarfodydd yn y Festri.

Cynhelid cyfarfodydd crefyddol bob nos Sul os oedd y tywydd yn ffafriol a'r wraig yn cymryd ambell i gyfarfod ei hun.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Morgannwg/Gwent Cyfarfodydd wedi eu trefnu yng Nghaerffili, Merthyr, Torfaen ac Abertawe.

Cafwyd caniatad gan Bwyllgor Y Neuadd Gymuned i Gangen Yr Urdd gael defnyddio'r Neuadd Gymuned yn ddi-dal hyd y Nadolig i gael cynnal eu cyfarfodydd fydd yn dechrau fis Medi.

Cynhaliwyd cyfarfodydd i edrych ar ddyfodol y sector wirfoddol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, ac yn arbennig felly, y mudiadau hynny a gyllidir trwy strategaeth sirol.

Ar y Cadeirydd y mae'r cyfrifoldeb dros gymryd camau i sicrhau bod aelodau'r pwyllgor yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfodydd.

Yr un flwyddyn cytunwyd ar ganllawiau i'r seiadau yn y llyfryn, Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies neu'r Cyfarfodydd Neilltuol...

Bydd y ddogfen hon sydd wedi ei seilio ar lyfryn a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Trysorlys Canada yn cynnig canllawiau ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Senedd-dy Owain Glyndwr, a dywed yr aelodau oedd yn bresennol - rhyw drigain ohonynt - iddynt fwynhau eu hunain yn arw.

Cyfarfu'r Pwyllgor yn Aberystwyth dros y Flwyddyn Newydd a'r Pasg, ac mae'n rhaid mai yn y cyfarfodydd hyn y gwnaed cynlluniau i gychwyn cyfnodolyn i'r blaid.

Yn y cyfarfodydd hyn daeth y geiriau a ganlyn yn gyfarwydd: Daeth y geiriau'n gyfarwydd i bob un wrth i gylch ohonom gydio yn nwylo'n gilydd i'w canu.

Trefnwyd i gael cyfarfodydd gweddi undebol i ymbil am ddiwygiad a dyma'r cyfeiriad cyntaf yn y fro at un o nodweddion amlycaf y paratoi ar gyfer y diwygiad hwn.

Y lle cyntaf yn Eifionydd y dywedir iddo brofi ffrwydriad diwygiadol ar batrwm cyfarfodydd y De oedd Golan.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awr yn lobïo holl aelodau'r Cynulliad, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a galw am gefnogaeth mudiadau eraill er mwyn egluro'r dadleuon yn llawn a chasglu enwau ar y ddeiseb.

Rhagfyr 1999. Sut i gynnal Cyfarfodydd Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

CYFLWYNWYD cofnodion cyfarfodydd o'r Grŵp a gynhaliwyd ar:-

Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr y cwmniau a chynrychiolwyr y canolfannau perfformio i gyfnewid gwybodaeth, â, lle bo'r angen, i addasu cynlluniau i gydfynd ac unrhyw anghenion arbennig.

Dilynid trefn arferol y Clybiau o gynnal cyfarfodydd megis darlithoedd wedi eu trefnu gan y 'War Ag'.

Yng ngolwg yr ad-drefnu llywodraeth lleol arfaethedig gallai'r cyfarfodydd hyn ddatblygu i fod yn ffora i weithio gyda'r unedau newydd.

Ychydig o sylw a roes y wasg i'r cyfarfodydd.

Diben y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad ymarferol ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffordd fydd yn chwythu bywyd i'r egwyddor o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith ac yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg fel priod iaith yn ei gwlad ei hun.

Yn ddiweddarach perswadiwyd Roger Edwards i sefydlu cyfarfodydd llenyddol lle darllenid, y dadleuid, ac y cystadleuid, cyfarfodydd a fu'n batrwm i gyfarfodydd cyffelyb yn y wlad o gwmpas.