Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfarfu

cyfarfu

Yng Nghaerdydd y cyfarfu â'r ail o'i 'gwmwl tystion', yr Athro W.

Cyfarfu'r grŵp wyth gwaith yn ystod y flwyddyn, ddwywaith i dderbyn hyfforddiant.

Heddiw cyfarfu dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - oedd ar daith gerdded o Gaerdydd i Lundain dros Ddeddf Iaith - â chwmni ffôn symudol Vodafone.

ADRODDIADAU ERAILL ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR CYMRAEG Cyfarfu'r pwyllgor bum gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal a threfnu dau gyfarfod arbennig gyda swyddogion CCC Cafwyd trafodaeth gyda George Owen, Swyddog Drama C.Dd.C a'r Eisteddfod Genedlaethol, a theimlwyd fod gwelliant cyffredinol yn y trefniadau ar faes yr Eisteddfod ond fod gofyn trafodaeth bellach am rai elfennau.

Fis Rhagfyr, cyfarfu'r Trysorydd, Rheolwr a'r Cadeirydd gyda Mr Gerallt Hughes a Mr Matthews (Cyngor Dosbarth Meirionnydd) i drafod y defnydd o'r ystafell ychwanegol yn Nhywyn.

Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.

Am dri o'r gloch fore Gwener, cyfarfu Siwsan â'i rhieni o Borthmadog yng ngwesty Olga yng Nghaerdydd.

Cyfarfu ag ef pan oedd ar daith ar y Cyfandir yng nghwmni ei gyflogwr enwog, Iarll Arundel.

Cyfarfu'r Pwyllgor Streic hefyd, yn Ysgol y Gweithfeydd Copr, i drafod yr argyfwng a'u hwynebai hwythau, gan nad oedd mwyafrif o'r picedwyr yn cydnabod awdurdod y Pwyllgor bellach.

Y diwrnod wedyn, dydd Sadwrn y cyntaf o Ionawr yn Amwythig, cyfarfu'r Rhyddfrydwyr.

Y tu ôl i lenni ei gartref o y cyfarfu'r 'cynllwynwyr', ac wedi hynny chwaraeodd ran ganolog yn yr ymgyrch i'w disodli hi.

Cyflymodd ei gerddediad i ddilyn y bêl ac i ddianc o'r pentref lle y cyfarfu'r crwydryn.

Yn Wrecsam y cyfarfu a Neli Tilston Jones, ysgrifenyddes yn un o swyddfeydd y Bwrdd Trydan, a'i phriodi.

Cyfarfu'r Pwyllgor yn Aberystwyth dros y Flwyddyn Newydd a'r Pasg, ac mae'n rhaid mai yn y cyfarfodydd hyn y gwnaed cynlluniau i gychwyn cyfnodolyn i'r blaid.

Daeth tro ar fyd Reg yn 1998 pan y cyfarfu Diane Francis - 'roedd ei merch, Emma, wedi cyhuddo Reg ar gam o ymyrryd gyda hi.

Ac ar ryw ffordd unig o Jerwsalem y cyfarfu Jeroboam â'r proffwyd Aheia o Seilo.

Yr un diwrnod cyfarfu Curig am y tro cyntaf â'i bwyllgorau, Pwyllgor y Llyfrfa yn y bore, a'r Pwyllgor Gweinyddol yn y pnawn.