Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfartal

cyfartal

Yng ngemau eraill Grwp 5, cyfartal 1 - 1 oedd y sgôr rhwng Armenia a Gwlad Pwyl.

Caniatáu hawliau pleidleisio cyfartal i ferched a dynion.

Yn Stamford Bridge, cyfartal 1 - 1 oedd hi rhwng Chelsea a Leeds.

Cytundeb eang (75%) y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru.

Os yw'r Cadeirydd o ddifrif am sicrhau cyfle cyfartal i siaradwyr y ddwy iaith yn y Pwyllgor, dylid asesu a monitro pob cyfarfod.

Cymru ar hyn o bryd sy'n bedwerydd yng ngrwp pump, ar ôl colli ym Melarws a chael gemau cyfartal gyda Norwy a Gwlad Pwyl.

Cyfartal 3 - 3 oedd hi rhwng Charlton ac Aston Villa, a'r ddau dîm yn sgorio yn y munudau olaf.

Mae toreth yr hysbysebion am insiwrans iechyd yn eich hatgoffa nad oes cyfle cyfartal i bob corff yma.

Dylai'r Cynulliad gynorthwyo i sbarduno symudiad yn Ewrop am Ddeddf Iaith i Ewrop gyfan fydd yn sicrhau statws cyfartal i holl ieithoedd Ewrop.

* dylig cynnig cyfle cyfartal

Galwn ar yr holl ymgeisyddion i'r Cynulliad ddatgan eu hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ymwneud â'r cyhoedd.

Cyfartal 1 - 1 oedd hi rhwng Aberystwyth a Chei Conna.

Felly, mynnwn mai'r ffordd effeithiol o ymdrin â'r Gymraeg ydyw trwy gael rhaglen lorweddol sefydlog fel a argymhellir yn y Papur Ymgynghorol ar gyfer Ewrop, Cyfleodd Cyfartal, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.

Iddo fo mae'r diolch mai cyfartal oedd y sgôr yn y diwedd.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Credaf mai dim ond trwy gydweithio y gallwn gynnig y cyfle cyfartal haeddiannol i holl blant Cymru.

O ystyried mai penodol yw cynnwys Llafar Gwlad, mae'n ymddangos fod y cylchgrawn hwn yn apelio'n eithaf cyfartal ar draws yr holl ystodau oedran - camp yn wir !

Yn achos Cymraeg Cynradd cyfartal oedd cyfraniad gan yr HC a chan sir i cynllunio thema.

Wn i ddim amdano chi ond yr ydw i wedi cael llond bol ar bwndit ar ôl pwndit yn siarad am gemau cyfartal gyda't un afiaith a phe bydden nhw yn gemau wedi eu hennill.

Dylid ceisio diffinio'n gliriach natur y 'cyfle cyfartal' o safbwynt darpariaeth adnoddau, er enghraifft mewn perthynas ag adroddiadau o'r 'Educational Publishers Council' ar gyflenwad adnoddau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Dylai'r Cynulliad weithredu mewn ffordd wrth-orthrymol fyddai'n sicrhau cyfle cyfartal gwirioneddol i bawb gymryd rhan yn y Cynulliad.

Cyfartal 1 - 1 oedd hi rhwng Newcastle a Southampton.

Yn achos Ail Iaith Uwchradd cyfartal oedd cyfraniad gan yr HC

Dylid asesu pob agwedd ar gynllunio ar gyfer datblygiad yn ôl y gofynion er mwyn sicrhau y bydd hynny'n esgor ar gyfle cyfartal i'r holl ddisgyblion ag AAA.

O weithredu'r egwyddor o 'gyfle cyfartal', dylai ystod a chanrannau cyfartalog diwyg adnoddau Cymraeg adlewyrchu'r ystod a chanrannau a geir mewn adnoddau Saesneg.

Cyfartal 1 - 1 oedd hi rhwng Bangor ac Aberystwyth, a chyfartal 2 - 2 rhwng Caersws a Chaerfyrddin.

(b) Rhoddwch eich barn gyffredinol am y cynllun, gan gynnwys eich barn am ddefnyddioldeb canllawiau'r athro (A oes digon o fanylder ar gyfer athro/ athrawes sy'n gweithio y tu allan i'w faes/maes ei hun?), ffurf a chyflwyniad y gwaith, lefel yr iaith a'r agwedd at bynciau megis cyfle cyfartal.

Cic rydd Gary McAllister yn yr eiliadau olaf enillodd y gêm pan oedd hi'n edrych yn debyg taw cyfartal 2 - 2 fyddai'r sgôr.

Cyfartal, 1 - 1, oedd hi rhyngddyn nhw â Lyon yn Highbury.

Rhaid i hyn gynnwys cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg ar sail egwyddor dilysrwydd cyfartal annibynnol.

Wel, cefnogaeth eang led-led Cymru ar ddefnyddio'r Gymraeg (71%). Cytundeb eang y dylai Cymraeg a Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru (75%). Cytundeb eang ar bwysigrwydd addysg Gymraeg (80%). Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn y ddwy iaith.