Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfarwyddo

cyfarwyddo

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Y Cyfarwyddwr Dafydd yw'r ffilm gyntaf i Ceri Sherlock ei chyfarwyddo a'i hysgrifennu, er y bydd gwylwyr BBC Cymru eisoes wedi gweld enghraifft o'i waith cyfarwyddo yn ystod y gyfres ddiweddar o Wales Playhouse.

Gan na wyddem beth oedd arwyddocâd y gwrthrychau simneiaidd a welem yn y caeau a'u defnyddio i'n cyfarwyddo at ben draw y twnnel, bu raid inni ddilyn y ffordd am dipyn, nes inni gyrraedd ciosg Dôl-grân Uchaf.

yr oedd hon yn hen gêm gan y triawd ond roedd rhaid cyfarwyddo ffred.

Mae'n sicr bod economeg Keynes wedi bod o fudd mawr i ddeall amryfal droadau'r economi, ac wedi cyfarwyddo aml i bolisi ar gyfer chwyddiant a datchwyddiant.

Greddf yn eu cyfarwyddo oedd y dehongliad.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo pob Rhanbarth perthnasol i ymgyrchu dros newid iaith gweinyddiaeth fewnol yn ein hardaloedd - fel y byddwn yn symud ymlaen at sefyllfa lle bu llywodraeth leol yn yr ardaloedd Cymraeg yn cael ei weinyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n gweithio mewn ffatri 'er mwyn cyfarwyddo ag amgylchiadau bywyd gwaith'.

Ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu TG4 y mae cynulleidfa'r sianel wedi cyfarwyddo a phêl-droed Sbaen, dilyn hynt a helynt cyfreithwyr Amsterdam, a chael blas ar haute cuisine y gwledydd pell.

Da o beth fyddai i'r aelodau i gyd gael cwrs hyfforddiant mewn swydd er mwyn cyfarwyddo â deinameg dwyieithrwydd.

Roedd y cyfarwyddo yn llac hefyd.

Er hynny, digon o waith fod y Gymdeithas wedi cyflawni'r ail ddiben y sonia OM Edwards amdano, sef 'cyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen, oblegid er bod rhai o'r aelodau, ac OM Edwards yn arbennig yn eu plith, wedi ceisio gwneud hynny, ni wnaeth y Dafydd fel cymdeithas nemor yn y cyfeiriad hwn, a hynny, mae'n debyg, oherwydd mai cymdeithas fechan y bwriadwyd iddi fod, ac mai cymdeithas fechan fu hi ar hyd y blynyddoedd cynnar, beth bynnag am y blynyddoedd diweddarach.

Yr ydym yn ddiolchgar i'r rheini a gyfrannodd i'r sesiynau hynny, yn cynnwys aelodau o'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr NSPCC, a'r Gwasanaeth Cyfarwyddo Plant a Theuluoedd.