Phillips ohono yn iawn: y mae'r seler yn cyfateb i Uffern yn Saer Doliau; y mae lleoliad Y Ffin mewn cwt sy'n gallu gweld yr eglwys yn arwydd o bellter y bobl o'r ysbrydol; y mae'r Tŵr yn dangos gwacter ystyr a ddaw i bobl sydd wedi eu gwahanu'n llwyr o'r ysbrydol.
Os oedd pob nod yn gyfres o dasgau cyfathrebu ymarferol, yna byddai pob un yn cyfateb i gyrhaeddiad yn hytrach nag i oedran neu allu.
Mae tebygrwydd sylfaenol rhwng y ddwy nofel yn eu defnydd o ffurf y cronicl dogfennol sy'n cofnodi hanes un teulu dros gyfnod hir, yn cyfateb mwy neu lai i flynyddoedd cynnar y ddau awdur.
Mae'n wir fod Owen Gruffydd yn cyfateb mwy neu lai i Len Roberts yn Cwmardy, y ddau'n ddynion ifanc adeg y rhyfel.
Rydyn ni'n chwilio am y ffilm fydd yn cyfateb i anghenion ein breuddwydion, y ffilm berffaith.
Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.
Yma mae'r chwyddhad tua miliwn, ac mae pob smotyn gwyn yn cyfateb i atom.
Ond wrth droi hanes ei theulu'n ffuglen (a chymryd ei bod hi'i hun yn cyfateb i Owen), fe wnaeth rai newidiadau digon diddorol.
Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.
Mae'n arwyddocaol fod y fersiwn hwn, lle bynnag y bo priod-ddull y Ffrangeg yn gofyn am eiriau nad oes dim yn cyfateb iddynt yn y gwreiddiol, yn dynodi'r ychwanegiadau hyn trwy eu hargraffu mewn print manach.
Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.
Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.
yn fyrrach, na'i gilydd - sy'n cyfateb i drefn natur, lle ceir rhai creaduriaid sy'n goroesi'n well na'i gilydd.
Mae'r rhestr yn awr yn cyfateb i'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' teithio gorau o'u cymharu â'r gweddill.
Mewn alegori, y mae A yn cyfateb yn uniongyrchol i B ac os gelwir Gwenlyn yr ail Bunyan, yna disgwylir i hynny ddigwydd o fewn ei ddramau.
Syniad arall a gafwyd oedd "homologous structures" - nid oedd adlewyrchiad nag adgynhyrchiad yn digwydd rhwng y broses uwch- ffurfiannol a realiti'r sylfaen economaidd, ond yr oedd y strwythurau yn 'cyfateb' i'w gilydd, a gellid canfod y gyfatebiaeth hon trwy ddadansoddi.
Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.
Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.
Mae'n bosibl trefnu fod tonfeddi'r rhain yn cyfateb i'r gwahaniaethau rhwng lefelau egni'r crisial, ac mae'r datblygiad hwn wedi rhoi hwb anferth i faes ymchwil laserau cyflwr solid.