Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfeirir

cyfeirir

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Cyfeirir at bobl ddwy ar hugain oed fel personau ifanc nad ydynt eto'n llwyr gyfrifol am eu gweithredoedd.

Yn y Trioedd ceir awgrymiadau o wrthdaro rhwng y ddau, ond yn y Gogynfeirdd cyfeirir at Fedrawd fel patrwm o foes a dewrder.

At Fethesda y cyfeirir yn y cwpled agoriadol, wrth gwrs, a'r olygfa a gyflwynir ynddo yw honno o chwarel lechi Y Penrhyn yn un graith enfawr ar wyneb y mynydd, yn bonciau a thomennydd ar draws y lle ymhob man.

Cyfeirir yn y tri Adroddiad at bwysigrwydd gwniadwaith yn addysg y ferch a beirniedir ysgolion am ddysgu'r pwnc yn aneffeithiol.

Cyfeirir at bob un o'r categoriau hyn yn yr adroddiad, ond cynhwysir a-ch dan y pennawd Cymraeg fel ail iaith, ac ymdrinir â mamiaith ar wahân.

Mae pob un o'r pymtheg "cam", neu'r mannau y cyfeirir atynt, yn datgelu ei ran mewn hanes a chwedl, a hynny'n aml drwy ail-greu'r gorffennol yn syfrdanol o fyw gyda thechnegau sŵ'n a golau.

Yn y llythyr yn trosglwyddo aelodaeth a anfonwyd gan ysgrifennydd Eglwys Ebenezer, Llanelli at ysgrifennydd Rhydyceisiaid, at un o'r plant yn unig y cyfeirir, sef Euros.

Cyfeirir ato hefyd yn fy nghyflwyniad i ddiwylliant gwerin Uwchaled mewn cyfrol, Yn Llygad yr Haul, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyhoeddiadau Mei.

Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.

Cyfeirir ato fel tyrannus, teitl sy'n awgrymu teyrn lleol a gipiodd ei awdurdod trwy rym.

Cyfeirir ato fel "rhyw hen foi" oherwydd ei negyddiaeth tuag at y gerddoriaeth a'r sîn yng Nghymru "...a dwi'n dal i deimlo'r embaras efo'r Sîn Roc Gymraeg.

Cyfeirir y cais at y Cyngor Cwricwlwm gan ei fod yn ymwneud ag arweiniad i athrawon yn hytrach na chynhyrchu adnoddau dosbarth

Wrth drafod effeithiau Gwrthryfel Glyndwr cyfeirir at dwyll Thomas Barnelby y Siamberlen yng Nghaernarfon a gollodd ei swydd ond eto'i gyd a fu'n gwnstabl y castell hyd ei farw.

Ynghyd â darparu'r cyfleoedd ychwanegol y cyfeirir atynt uchod, rhaid sefydlu'r arfer o ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth ymysg plant pan fônt yn yr ysgol; mae'n anos newid arferion wedyn.

Cyfeirir at y Blitz ynddi.

Cyfeirir at y saint yn aml yng ngwaith y beirdd, yn enwedig yng ngwaith y Cywyddwyr.

Crynhoir hynny'n ddeheuig iawn mewn un cwpled lly cyfeirir at y noddwr ymroddedig yn ei swydd yn geidwad tŷ yn yr olyniaeth deuluol a weithredai 'â mawredd a chymeriad'.

Cyfeirir y cais i sylw'r Cyngor LLyfrau Cymraeg

\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.