Gofynna'r Cyfeisteddfod ymhellach a oedd modd, heb lawer o draul, ad-drefnu adeiladau Maulvi fel ag i wneud cwynion tebyg i'r rhai a glywsent yn amhosibl.'
Penderfynodd y Cyfeisteddfod fod Pengwern i gymryd chwe mis o seibiant a mynd i ryw ran o India tu allan i'r Maes 'lle caffo orffwys ac adnewyddiad'.
Meddai'r Cyfeisteddfod: 'Da iawn gennym i chwi gael eich argyhoeddi nad oedd unrhyw sail i'r cyhuddiadau o anfoesoldeb .