Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyffelyb

cyffelyb

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Y mae'r 'Loch Ness Monster' wedi hen dynnu sylw'r byd, ond yn ddiweddar daeth rhai pobl i gredu bod anghenfil cyffelyb hefyd yn Llyn Tegid, Y Bala.

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Gallai ei ganiatau greu cynsail i geisiadau eraill cyffelyb ac arwain at dai haf a.y.

Y corff swyddogol sy'n hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru ynghyd â deunydd cyffelyb arall.

(ii) Gofyn i'r Rheilffyrdd Prydeinig sicrhau i'r dyfodol bod materion cyffelyb yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyswllt.

Crefaf mai diddorol yw gweld y gwahaniaeth rhwng ei driniaeth ef o'r pwnc a'r hyn a geir mewn llawer o lyfrau cyffelyb yn Saesneg.

Symudir yn yr adran nesaf i drafod yr atalnodau, y priflythrennau, sut i bwysleisio'n gywir ac ymlaen wedyn i ddadansoddi tro%ellau ymadrodd, y byrfoddau, y rhifolion Rhufeinig, geiriau cyffelyb eu sain ond gwahanol eu hystyr.

Nid yw'n dilyn y buasai'r deallusion Cymraeg a edmygai'r beirdd a'r llenorion hynny yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel wedi ymddwyn yn yr un modd mewn amgylchiadau cyffelyb.

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Realiti'r sefyllfa yw bod na fesur yn cwblhau'r camau olaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd a all labelu pob un aelod o Gymdeithas yr Iaith yn derfysgwyr, ynghyd ag aelodau nifer fawr o fudiadau protest di-drais cyffelyb.

Y rheini fedr arwain orau rai cyffelyb iddynt hwy eu hunain, a chyda mwyaf o rym wedi iddynt gael eu sefydlu yn y Ffydd, a dod i gredu mewn gwirionedd 'fod Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw Dad'.

Gall bod dau darddiad o'r enw Cardamine, un yn golygu berwr dwr oherwydd blas cyffelyb y dail a'r llall oherwydd ei allu honedig i leddfu anhwylder y galon.Cyfeiria'r pratensis at y gweirgloddiau.

(ii) Datgan siom na chafodd yr aelodau perthnasol wahoddiad i'r cyfarfod a gofyn iddynt sicrhau bod cynrychiolaeth o'r Cyngor hwn yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd cyffelyb i'r dyfodol.

Ond prin y ceir dim byd cyffelyb i hyn ym marddoniaeth y cyfnod.

Gwaith cyffelyb, gobeithio, i'r hyn a wnâi'r bobl yn Nhŷ Gwyn, ond bod rhai o'r rheini'n athrawon.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Pan fydd eich plant chi, ynghanol y ganrif nesa, yn galw eu plant nhw yn Rocet a Shuttle a phethau cyffelyb fe fyddwch chi'n meddwl am mam.

Nid yn unig yr oeddwn i a'm cyfoedion yn ddigon ffodus i gael y cyfle i wrando ar Lloyd y Cwm a'i debyg o dro i dro, ond fe ddeuem ar draws aml i berson cyffelyb ar ddyddiau'r wythnos hefyd.

Fe wnaeth rywbeth cyffelyb wrth drosglwyddo ei phrofiad hi'i hun i Owen yn y nofel.

Mae Rheol VI yn mynnu fod aelodau'r seiadau i ymwrthod â "gwylmabsantau, dawnsiau, chwareyddiaethau, gloddesta, cyfeddach, di%otta, a'r cyffelyb".

Gellir cysylltu'r enw ag enwau afonydd cyffelyb, megis Hoddnant ym Maesyfed, Morgannwg a Phenfro, Hoddnan ym Morgannwg a Hoffnant yng Ngheredigion.

Clywid adroddiadau cyffelyb o Feirion.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Hyd nes ein bod yn rhyw ddeg oed i oedfa'r bore yn unig y byddem yn mynd ond wedi hynny os nad oedd arholiadau neu rhyw rwystr cyffelyb, byddem yn mynd i oedfa'r hwyr hefyd.

awgrymai'r gweithgor y dylid sicrhau deunydd cyffelyb yn y blynyddoedd i ddod.

Cof, o leiaf, am Ddafydd Miles yn ei ddisgrifio ar achlysur cyffelyb 'yn wadlo yn y glaw'.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Yn ddiweddarach perswadiwyd Roger Edwards i sefydlu cyfarfodydd llenyddol lle darllenid, y dadleuid, ac y cystadleuid, cyfarfodydd a fu'n batrwm i gyfarfodydd cyffelyb yn y wlad o gwmpas.