Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfforddus

cyfforddus

Er fod tafarn y Gloch dipyn yn hen-ffasiwn, cawsant fod eu stafelloedd gwely'n rhai digon cyfforddus a glân.

Aeth yntau i gornel gysgodol, ac wedi cael man cyfforddus i orwedd ar hen domen o deiars, fe syrthiodd i gysgu.

Aeth bywyd cyfforddus newydd Diane yn fwy cymhleth wrth i'w chyn-wr, Graham, ddychwelyd i'w bywyd.

Yng Nghymru er enghraifft, mae'n bosibl y byddai rhai yn teimlo'n llawer mwy cyfforddus yn gwerthu yswiriant neu drafod gwleidyddiaeth yn Saesneg tra'n hapus iawn i sôn am y tywydd neu'r teulu yn Gymraeg.

Rhaid meithrin hyder i sicrhau y dônt yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio'r iaith.

Pan gymerodd Zola y mater o'r diwedd i'w ddwylo ei hun, fe wnaeth y calipr yn fwy cyfforddus ac yn fwy derbyniol - yn fwy o ran ohono'i hun.

Teimlai Idris yn fwy cyfforddus yn awr, gan fod y pentrefi'n amlach o lawer, a bod mwy o fynd a dod, yn bobl ac anifeiliaid.

Dwi rioed wedi gwarbacio yn fy mywyd - yn rhy hoff o wely cyfforddus felly mae'r daith yma wedi bod yn sialens newydd i mi.

Doedd dim byd i'w weld o'i le ar batrwm bywydau'r bobl yn eu pentrefi newydd: cynhaeaf digonol ac amodau byw cyfforddus.

Dydw i ddim yn siwr iawn faint mwy cyfforddus fyddwn i'n disgwyl bod; a minnau wedi arfer cael tri throns am ddegpunt o Marks.

Crafu byw'r oedd y bobl pan gyrhaeddon ni ac, er nad oedden nhw lawer mwy cyfforddus eu byd pan adawon ni, ni fyddai neb yn marw o newyn na syched.

Nid yw hyn o angenrhaid yn golygu dosbarthiadau cadw'n heini o'r math 'aerobig' egniol, mae'n golygu cyfnodau eithaf hir o weithgaredd lle nad ydych yn cael eich gwthio i'r eithaf e.e., cerdded yn eithaf cyflym, loncian ar gyflymdra cyfforddus, nofio neu seiclo.