Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfiawn

cyfiawn

Adeiladu byd mwy cyfiawn Na'n byd ni ddoe.

Mae'n rhaid i Bwyll ddysgu sut i feddwl cyn gweithredu, rhaid iddo fod yn ofalus, a bod yn ddigon gostyngedig i ofyn yn lle gorchymyn; ond, er hynny, mae'n ddyn da, mae'n gyfaill ac yn briod ffyddlon, gŵr cyfiawn na ellir ei siglo gan farn ei foneddigion.

Cysgais gwsg y cyfiawn y noson honno beth bynnag, ond tua chwech o'r gloch y bore cefais fy neffro gan Akram.

Ar ôl iddo ddarbwyllo'r capeli fod y Rhyfel yn un cyfiawn, 'roedd uffern Ffrainc a Fflandrys yn llawn o s^wn iaith y nefoedd.

Bydden nhw'n disgyn o'r brif adran ddiwedd y tymor hwn, a tasai clwb o'r Alban yn cymryd eu lle nhw y tymor ar ôl nesa, fe fyddai yna deimlad - cyfiawn, o bosib - bod rygbi'r Alban yn cael ei hybu ar draul rygbi Cymru.

Os bydd dyn cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd hwnnw farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei bechod, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Problem arall yw nad yw grisiau'r tŵr yn weladwy i'r gynulleidfa drwy'r amser mewn cynhyrchiad teledu gan fod y camera'n crwydro at wyneb neu gorff ac yn symud i ffwrdd oddi wrth ddarlun cyfiawn o'r set.

Y mae'n arwydd fod Duw yn dymuno, nid yn unig ymddygiad cyfiawn, ond hefyd ymroddiad absoliwt.

Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.