Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfiawnder

cyfiawnder

Mae gan yr Arglwydd ei ffordd anrhydeddus ei hun ar gyfer Cristnogion sydd yn euog o fethu wrth iddynt geisio dilyn llwybrau cyfiawnder.

a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?...

Yn gyntaf nid yw'r Cynulliad yn gweithredu polisi o ddwyieithrwydd gweithredol ac yn ail ymddengys nad yw'r cyfryngau ar y bwletinau newyddion Saesneg yn gwneud cyfiawnder â'r aelodau hynny sy'n dewis siarad Cymraeg.

Ond y mae'r Gwaredwr wedi cyflawni holl ofynion cyfiawnder Duw - Ef yw'r annwyl Fab yn yr Hwn y mae'r Tad wedi ei fodloni.

Nid yw'r agwedd broffwydol bob amser yn gwneud cyfiawnder â'r gwirionedd fod gan bechod allu na all dyn ohono'i ei hun ei drechu.

Plaid fechan ac ifanc - "eithr gwyr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder y rhai nis anghofiwyd".

Cyfiawnder oedd yr allwedd i ddeall ystyr goludoedd y brenin a natur ei awdurdod ar ei deyrnas.

Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Protestia nifer o'r pentrefwyr yn erbyn hyn, gan ddymuno cyfiawnder i ti, ond fe gollant y dydd yn erbyn cefnogwyr swnllyd Maelgwn Magl.

Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.

Ac y mae'n amlwg fod yn rhaid wrth dechnegau heblaw'r rhai rhesymegol a dadansoddol i wneud cyfiawnder â chymhlethdod ein bywyd beunyddiol.

Dim ond Deddf Iaith gref all sicrhau cyfiawnder i'r iaith, ac nid y Quango diddannedd sydd gennym ar hyn o bryd.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.

Ar ben hynny, rhaid gwneud cyfiawnder â chyfanrwydd y realiti o'n cwmpas.

Serch hynny, mae pob stori yn unigryw a difyr, a gyda phrin cant o dudalennau mae'r gyfrol yma yn un wnaiff diddanu unrhyw un sy'n ymddiddori mewn gweld cyfiawnder yn cael ei gloriannu.

Rhaid croesawu'r posibilrwydd o weld Llywodraeth yn teyrnasu yn Llundain a fydd yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol ar ben ei rhaglen.

Gwaradwydd o benderfyniad gan unrhyw gorff sy'n honni gweinyddu cyfiawnder.

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

Mae ei ymddygiad dirwestol a chyfiawn yn gosod Robert Pugh y Trawscoed - ei gymydog agosaf - yn y cysgod gydol y nofel o ran synnwyr cyfiawnder a phob dim arall.

Trwy hyn gweithredwyd y cyfiawnder dwyfol, cyfiawnder a gyfrifwyd i'r sawl a ddeuent i gredu yng Nghrist: 'Cafodd Iesu ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni' (Rhuf.

Am nad oedd yr ochr yna i tywyd y cymoedd wedi cael cyfiawnder mewn llenyddiaeth Gymraeg yr aeth Rhydwen Williams ati i sgrifennu cyfres o dair nofel am ei ieuenctid ef.

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.

Oherwydd ein pechod yr ydym o dan gondemniad ac nid oes dim a allwn ni ei wneud trwy ein hymdrechion ein hunain i sicrhau'r cyfiawnder a fydd yn bodloni'r Duw sanctaidd.

Gyda Chwpan Rygbir Byd yn gosod yr agenda chwaraeon ar gyfer 99, llwyddodd Rygbi Rhyngwladol i wneud cyfiawnder â digwyddiad chwaraeon mawr olaf yr 20fed ganrif.

Crwydrais yn o bell oddi wrth ddydd y badell ffrio a dylwn ychwanegu inni wneud cyfiawnder cyflawn â'r crempogau amser te!

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod eithrio'r sectorau preifat a gwirfoddol o'r ddeddf yn arwydd clir nad yw'r ddeddf o ddifrif yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol yng Nghymru.

Bellach mae bron pob plentyn ysgol yn dysgu rhywfaint o bynciau o leiaf trwy gyfrwng yr iaith ac mae rhaglenni uchelgeisiol i newid iaith y gweithle, iaith gweinyddiaeth, iaith y gymuned a chreu cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol.

Oherwydd cyfyngiadau ar amser -- fel ymhob rhaglen deledu mae'n siŵr -- ni allodd Moc Morgan wneud cyfiawnder â dawn Ray Jones, Conglywal, Blaenau i lunio ffyn o bob math o'r defnyddiau y mae'n eu casglu o frigau a changhennau y mae'n eu gweld yng nghoed ei fro.

Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.

A yw hyn yn gwneud cyfiawnder ag argyhoeddiad pobl yr oes honno fod rhywbeth newydd ac annisgwyl wedi digwydd?

yw, y dichon y Ddei~l Haul arwyddoccâu calon y gwir Gristion o weithrediad DUW yng Nghrist lesu, a'u goleuo trwy dywyniad Haul Cyfiawnder.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.

Er gwaethaf rhybuddion Robin, doedd Rhian ddim wedi rhag-weld pa mor gyndyn y byddai'r sefydliad i gyfaddef nad oedd cyfiawnder.

I wneud cyfiawnder â'r gweld hwnnw ni thâl dyrchafu un wedd ar y bydysawd a darostwng pob peth arall iddi.

Yn hyn o beth, mae lle i'r Cynulliad sefydlu sefydliadau newydd trwy Gymru er hybu cyfiawnder a heddwch yn y byd. 05.

Felly, cyfiawnder benthyg sydd gan y Cristion gerbron Duw.

Yr oedd dyhead o du'r ifanc yn y Lluoedd i weld byd gwell lle gwelid cyfiawnder, rhyddid, a heddwch yn teyrnasu, ond nid oedd gan na chrefydd nac Eglwys ddim i'w wneud â sylweddoli'r dyhead hwnnw.

Gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn gosod yr agenda chwaraeon ar gyfer ‘99, llwyddodd Rygbi Rhyngwladol i wneud cyfiawnder â digwyddiad chwaraeon mawr olaf yr 20fed ganrif.