Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfieithir

cyfieithir

Cyfeiriodd Merêd at gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y Cynulliad a dadlau ar sail egwyddor o gymryd fod y ddwy iaith yn gyfartal y dylid cyfieithu i'r Gymraeg o'r Saesneg fel y cyfieithir o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Yn ôl esiampl yr Ysgrythurau eu hunain, rhaid rhoi'r flaenoriaeth i briod-ddull yr iaith y cyfieithir ohoni wrth gyfieithu'r Ysgrythurau.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.