Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfla

cyfla

"Ond faswn i ddim yn licio i neb gael cyfla i intyffirio hefo o'ch blaen chi." Ac ar ôl hynny, y fi oedd y dyn i gyd, all the rage, chwadal nhwtha, a fynna hi neb i fynd â hi i'r Disco ond y fi, ac yno y buon ni tan yr oria mân.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

"A pheth arall," medda fi, ar ôl iddo fo gael cyfla i ddžad i lawr o ben ei gawall, "lle mae'r lechan las honno oedd yn y clawdd yn deud fod yna dros hannar cant o filltiroedd dros ddeugant i Lundan?" Wydda fo ddim, a doedd dim gwahaniaeth gynno fo chwaith.