Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyflawn

cyflawn

Ac yn raddol, fel y datblygai'r ddealltwriaeth hon, aeth yn agosach at y pwynt lle gallai droi'n ôl at ei brofiad cynnar, a'r bywyd clos, cyflawn, yr oedd yn ei weld erbyn hyn trwy lygad plentyn a llygad dyn.

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

Rheol rhif un wrth ysgrifennu nofel yw creu cymeriadau cyflawn sy'n taro deuddeg.

Y mae teitl cyflawn y gyfrol, Christmas Evans a'r Ymneilltuaeth Newydd yn cwmpasu thema sy'n agos at galon Dr Densil Morgan.

Cawn hefyd ddisgrifiadau manwl o'r ffordd y mae trigolion yr ardal yn ymateb i ddiflaniad Margaret a hanes cyflawn y golygfeydd yn y capel pan gyfyd cwestiynau am ei hymddygiad.

Golyga'r cysylltiad yma ein bod yn gallu darparu gwasanaeth cyflawn yn y Gymraeg sy'n cyfrannu at

Daeth diwedd Medi cyn iddi fedru cyflwyno'i dogfennau cyflawn i'r Swyddfa Gartref.

Disgwyliwn gyfarfodydd gweithgor yn ogystal â chyfarfodydd grŵp cyflawn.

Llwyd Jones yn Y Faner, ac 'y mae bron iawn â bod yn waith artistig cyflawn.' Ar ôl deugain mlynedd erys y gwaith hwn ymhlith y dramâu mwyaf arwyddocaol yn y Gymraeg.

Rydyn ni'n cynhyrchu ac yn diweddaru storïau yn barhaol er mwyn creu gwasanaeth newyddion Cymraeg mwyaf cyflawn y We.

Yr hyn sy'n hanfodol i fywyd cyflawn pobl a chenhedloedd yw rhyddid, digon o ryddid iddynt fyw eu bywyd eu hunain, iddynt fod yn gyfrifol am eu bywyd eu hunain.

Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...

Mae eich trefnydd lleoliadau athrawon yn darparu gwasanaeth cyflawn sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo hyd yr eithaf holl fanteision y lleoliad, ac mae hynny'n cynnwys darparu amrediad o ddeunyddiau i gefnogi'r lleoliad a manylion am opsiynau ar gyfer achredu.

Byddai hanes cyflawn yn gorfod rhoi lle i'r gweithredu uniongyrchol, wedi i'r mesur fynd trwy'r Senedd, gan ychydig o genedlaetholwyr glew a garcharwyd mewn canlyniad, ond nid y Blaid a drefnodd hyn er inni drefnu'r amddiffyniad.

Mae'n ormod o demtasiwn i mi beidio a chyfeirio at y gystadleuaeth gyntaf am lyfr cyflawn.

Mae'n wir i'r cynllun cyflawn fethu, ond bu'r bwnglera yn gyfrifol am greu rhai o'r problemau gwaethaf sy'n wynebu'r gymdeithas Gymraeg friwedig yn Llŷn y dyddiau yma.

Digonai ei wanc â bwydydd cyflawn a ffrwythau a llysiau.

Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfrif cyflawn o'r perspectif hwn.

Cofnodir agweddau ar ddatblygiad y plentyn cyfan mewn proffil sylfaen a all fwydo mewn i Gofnod Cyrhaeddiad Cynradd lle nodir cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Cwricwlwm Cyflawn.

Pan gaiff Cymru a'r Alban safle cenedlaethol cyflawn bydd y wladwriaeth Brydeinig yn darfod amdani.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Maent i gyd wedi cynllwynio i wyrdroi traddodiadau a ddylai weithredu fel y gallai dynion fyw bywydau cyflawn y tu mewn iddynt.

Er mwyn cael darlun cyflawn rhaid ystyried hefyd cyfraniad y canolfannau, a'r incwm a ddaw yn sgîl gwerthu'r adnoddau.

Ond i Layard y mae hi'n elfen gadarnhaol ac angenrheidiol, fel y 'fam' sy'n mynnu cychwyn y broses neu'r ddefod o urddo'r mab a'i ddiwyllio i fod yn berson dynol cyflawn, yn ogystal â bod yn wryw ac yn anifail greddfol.

Dylai'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o hybu datblygiadau penodol trwy'r iaith Gymraeg megis creu cyfleoedd i gael papur dyddiol Cymraeg, gwasanaeth darlledu teledu a radio cyflawn yn y Gymraeg ac adloniant ieuenctid yn y Gymraeg. 06.

Crwydrais yn o bell oddi wrth ddydd y badell ffrio a dylwn ychwanegu inni wneud cyfiawnder cyflawn â'r crempogau amser te!

Ond o gymryd y cwricwlwm cyflawn, mae'n bosibl i ddisgybl gael profiad ohonynt yn eu dysgu pynciol;- dealltwriaeth lythrennol ac ad- drefniadol yn y pynciau dyniaethol, dealltwriaeth gasgliadol yn y pynciau gwyddonol; a'r camau beirniadol a gwerthfawrogol wrth ymdrin a llenyddiaeth, celf a thechnoleg.

Nid yw'r ystyriaeth hon yn gwbl briodol ar gyfer y sefydliadau cyhoeddus sirol a chenedlaethol (megis yr awdurdodau lleol, CBAC, ACAC a'r Cynghorau Cyllido) sydd yn ymdrin â'r strwythur cyflawn ac yn monitro cyd-bwysedd y ddarpariaeth.

Daw'r adran i ben yn hollol ffurfiol â brawddeg glo draddodiadol, a blwyddyn a dwy a thair y bu ef yn hynny onid oedd ei glod wedi ehedeg dros wyneb y deyrnas, ac y mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd anturiaethau sy'n dechrau heb gyswllt â'i gilydd ond sy'n cad eu tynnu o wahanol gyfeiriadau yn un hanes cyflawn a gorffenedig.

Fel arfer y mae'n mynnu cael gwladwriaeth i'w gwasanaethu gan na ellir sicrhau'r amodau sy'n angenrheidiol i fywyd cyflawn heb drefn wleidyddol.

Trwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn sy'n anelu at fod cystal â'r hyn a geir yn Saesneg, a thrwy wahodd eu cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â hwy, gall y sawl sy'n darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfrannu'n helaeth at y broses o newid ymddygiad.

Y wasg oedd y cyfrwng a gyflwynai'r newyddion gyntaf, hyd nes i'r radio ddatblygu gwasanaeth newyddion cyflawn.

(i) Sicrhau bod dyddiad yr etholiad cyntaf mor fuan â phosibl ar ôl derbyn sêl bendith y Frenhines, er mwyn rhoddi mwy o amser i'r Cyngor cysgodol i wneud penderfyniadau ynglŷn â fframwaith staff a system cyflawn gwasanaethau a.y.

Dywedodd y prifathro, Ernesto Pena, fod hyn yn gymorth i greu person cyflawn a'i fod yn unol â gweledigaeth Jose Marti o gario pin ysgrifennu mewn un llaw a chaib yn y llall.

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.

Hynny yw, yr adeiladwaith triol cyflawn fel cnewyllyn dysgu Tafod.

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Credwn ei fod yn gwbl angenrheidiol fod y Cynulliad yn arddel a gweithredu polisi dwyieithog cyflawn o'r diwrnod cyntaf.

Maent i gyd wedi rhoi llythyren y traddodiad uwchlaw'r ysbryd a chymryd delfryd yn lle realiti cyflawn.

Ond mae'r menter a'r weledigaeth 'da nhw nawr i chwarae rygbi cyflawn a maen nhw'n gallu ymosod a sgori o unrhyw le ar y cae.

Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal 'rhesymoldeb' Deddf y laith Gymraeg 1993.