Y rheswm am hyn yw fod y cerrynt mawr hanesyddol, o'r oesoedd canol hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, oll wedi llifo trwy Ffrainc ac wedi cael mynegiant cyflawnach yno nag yn unrhyw wlad Ewropeaidd arall.
Mae'r uchelwyr Cymraeg yn dal i deimlo diddordeb ym materion eu hardal enedigol ond y maent ar yr un pryd yn dod yn aelodau cyflawnach o'r sefydliad canghennog a grewyd gan y Tuduriaid i asio Cymru wrth Loegr.