Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyflawnodd

cyflawnodd

Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.

Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.

Braint oedd mynd o Dyddewi, cartref nawddsant Cymru, i Landdewi, lle yn ôl traddodiad y cyflawnodd Dewi Sant lawer o wyrthiau yn y chweched ganrif, i gyhoeddi i gynulleidfa o dros wyth gant o bobl fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dal i iacha/ u trwy rym ei Eglwys a hynny am ei fod Ef yn ddigyfnewid yn Ei gariad, - "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Ar ôl y cyfarfod dywedodd amryw fod y syniad o'r lesu yn iacha/ u yn yr ugeinfed ganrif yn un hollol newydd iddynt.

Yn union fel y daeth hynny'n sylfaen ffydd Israel trwy gydol ei hanes diweddarach, mynnai'r Cristionogion mai trwy Iesu y cyflawnodd Duw waredigaeth ei bobl maes o law.

Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.

Ei fwriad oedd ei holi ynglŷn â'i weithredoedd, mewn ymgais i geisio deall pam y'u cyflawnodd, ond roedd Josef Mengele yn gyndyn o drafod Auschwitz mewn unrhyw fanylder, heb sôn am ddangos unrhyw deimladau.