Defnyddir bodolaeth ansylweddol ysbrydion er mwyn cyfleu cymhlethdod y berthynas rhwng agweddau gwahanol sylwedd ein bywydau ni.
Roedd yn ymdeimlo â'r grym mewn golygfa ac yn cyfleu hynny, yn ei weithiau aeddfed, gydag eiddgarwch disgybledig.
Unwaith eto allwn i wneud dim ond edmygu dewrder y gwragedd yma a cheisio cyfleu'r ffordd urddasol y maen nhw wedi dygymod â'r sefyllfa a dechrau bywyd newydd yn wyneb caledi mawr.
Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.
Does yna ddim hyd yn oed air Cymraeg am hynny ychwaith yng Ngeiriadur yr Academi ar wahan i camweithredol sydd ddim yn cyfleu'r un peth o gwbwl.
Yn ddiweddar deuthum ar draws pennill yng nghasgliad TH Parry-Williams, Hen Benillion sy'n cyfleu'r ffaith honno -
Y mae'r hen air bod llun yn cyfleu llawer mwy na mil o eiriau yn arbennig o wir ym maes addysg datblygu.
Dal grym rhythmig golygfa fel y gwelai'r arlunydd ef yw'r nod y mae'n cyrchu ati trwy'r adeg ac nid cyfleu manylion penodol.
Mae llawer o'r technegau yn cyfleu syniad sy'n annerbynion gan garfannau yn ein cymdeithas.
Gan mai Jungiad oedd yr awdur, teg disgwyl mai'r hyn a wêl yn bennaf mewn llenyddiaeth, yn enwedig chwedlau, ydyw delweddau sy'n cyfleu byd a bywyd mewnol, anymwybodol y seici neu'r enaid.
Er mwyn cyfleu hyn ni wna ragor nag awgrymu ffurf y môr, y felin, y tir gwastad gan adael i'r awyr lywodraethu'r darlun cyfan.
Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.
Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.
Yn llenwi tudalen ac yn aml yn ddarlun dros ddwy, mae'r lluniau'n cyfleu personoliaeth hoffus Tedi.
`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.
Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.
Gydai ffrog wedii thorri o faner y Ddraig Goch, llwyddodd i ddod ag apêl secsi i'r Cynulliad tran cyfleu neges ddifrifol.
Bu ceisio cyfleu hanes digwyddiadau a oedd yn gydamserol mewn nifer o fannau gwahanol yn broblem i stori%wyr llafar erioed, a hynny am resymau amlwg.
Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.
Nid eu bod gymaint â hyrmy'n fwy mentrus o ran lliw - glas a gwyrdd yw'r prif rai - ond mae eu maint helaethach, a'r ffaith eu bod mewn dyfrliw yn hytrach nag olew, yn cyfleu byd goleuach a mwy breuddwydiol.
Ac mae'n anodd cyfleu pa mor braf yw cael llyfr gwreiddiol Cymraeg i'r plant yn hytrach nag addasiad neu gyfieithiad.
On dnid yw'r genre hwn bellach yn cyfleu'n ddigonol, nac yn herio, y profiad Cymreig cyfoes.
Nid yw'r arlunydd fel petai'n ymddiddori dim ynddo ef ei hun ac eto mae'n cyfleu rhywbeth o'i gymeriad.
Os mai du oedd iard yr ysgol, glas oedd yr awyr o gwmpas, a byddai angen llond tram o 'bleeps' i hyd yn oed ymdrechu cyfleu adwaith y gwerthwr glo i'r rhaffo disymwyth.
Ond er fod teitlau amryw o'r rhain, fel y lluniau, yn cyfeirio at fannau penodol, cyfleu awyrgylch ac ymateb personol yw nod yr artist, yn hytrach na chofnodi'n union yr hyn a welodd.
Ar ôl treulio deuddydd yn ymweld â chanolfannau bwydo Mogadishu, lle'r oedd rhywfaint o drefn - a gobaith - wedi'u hadfer, fe ddes i'r casgliad mai cyfleu cymhlethdod newyn yr o'n i am geisio'i wneud.
..' Rheolir y frawddeg nesaf gan ferf sydd yn cyfleu gweithred feddyliol - 'Penderfynodd'; yna daw dwy ferf sy'n adrodd gweithrediadau go iawn ar ei ran ef, sef 'Cyfeiriodd' ac 'adroddodd'.
Ond nid mor aml y bydd ein testunau gosod yn ceisio cyfleu i'r darllenydd beth yw gwir natur economi.
Y termau Hebraeg sy'n cyfleu'r waredigaeth hon yw'r canlynol: a.
'Rydym yn dewis erthyglau a straeon a fydd yn cyfleu yr amrywiaeth liwgar a blasus o ddeunydd sydd yn y papur bob wythnos.
Yn ôl yr Athro hwyrach mai cyd-gyfrifoldebaeth yw'r gair Cymraeg sy'n cyfleu'r ystyr mewn ffordd sydd yn weddol amlwg ar yr olwg gyntaf, ond mae'n glogyrnaidd.
Roedd yna gymhlethdodau ymarferol i'w cyfleu hefyd, cymhlethdodau anochel a oedd yn dorcalonnus i'w cofnodi.
Ac eto, heb risiau gweladwy ar set lwyfan, megis un Martin Morley yn y cynhyrchiad gwreiddiol, mae'n anodd gweld sut y gellid cyfleu 'man dechrau'r daith' i'r gwyliwr.
Pan ddisgrifir Duw nid yw'r ansoddair yn cyfleu unrhyw fath o synwyrusrwydd; rhai 'haniaethol' sy'n consurio mawredd ydynt yn ddi-feth.
Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.
(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.
Pa derm Cymraeg sy'n cyfleu ystyr subsidiarity orau?
Mae'n cyfleu'r digwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol heb foesoli na thynnu gwers a heb geisio bod yn symbolaidd.
Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.
Wrth ffarwelio'n derfynol mae'r geiriau hynny'n cyfleu'r argraff fod y mab yn dal yn fyw ym meddwl y bardd, ac yn y tyndra ingol hwnnw y mae grym y gerdd fawr hon.
Cyfrifoldeb gohebwyr teledu oedd cyfleu peth o'r wefr honno'n ogystal ag amlinellu pwysigrwydd y cytundeb diarfogi a arwyddwyd gan Mr Reagan a Mr Gorbachev yn y Tŷ Gwyn.