Mae sefydliadau cefnogi busnes, cenedlaethol a lleol, wedi cydgyfrannu eu hadnoddau er mwyn darparu llwybr cyflym a syml ar gyfer busnesau i mewn I wybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ansawdd uchel.
Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.
Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.
ond nid oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei ddyfais ; efallai mai'r rheswm am hyn oedd y ffaith fod y fersiynau cynnar yn anodd i'w rhedeg yn gyson, oherwydd y gwneuthuriad ysgafn a oedd yn angenrheidiol er mwyn cael gweithrediad cyflym.
Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.
Ond mewn oes o deithio cyflym a thrwm, roedden nhw'n gwbwl angenrheidiol!
Dim ond un wiced yr un gafodd Andy Caddick ac Ian Salisbury yn y ddau brawf ac efallai bod cyfle i gynnwys Matthew Hogan y bowliwr cyflym sy wedi cipio 17 o wicedi ar y daith.
Rhaglenni cyflym a chyffrous i wella cyflymder a chywirdeb disgyblion wrth wneud gwaith pen.
Ac yna roedd y cwch cyflym wedi troi ac yn anelu fel mellten am yr agoriad cul i'r mor mawr.
Un o chwaraewyr Pacistan y mae Robert Croft yn ei adnabod yn dda yw'r bowliwr cyflym Waqar Younis - oedd yn aelod allweddol o dîm Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd ym 1997.
(b) Rheolaeth Cychod Cyflym CYFLWYNWYD
Bu Mathew Fontaine Maury, swyddog yn llynges America, yn casglu gwybodaeth am flynyddoedd gan gapteiniaid llongau am eu profiad o wyntoedd a moroedd mewn gwahanol rannau o'r byd, er mwyn paratoi siartiau i ddangos y llwybrau lle gellid disgwyl y tywydd mwyaf ffafriol i gyflawni mordeithiau cyflym.
Roedd yr hanner cynta yn eitha cyflym ond fe ddechreuais i setlo mewn wedyn.
Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.
Daliai hithau ei phen yn uchel, a cheisio anwybyddu curiad cyflym ei chalon.
Oherwyd hyn, ni fu'n ddigon cyflym i weld y gelyn wrth gynffon ei Spitfire.
Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym.
Doedd dim modd i Gymru ddarganfod y rhythmau ar tempo cyflym on nhw am eu cael oherwydd y dyfarnu; 22 - 8 o blaid y tîm cartre oedd cyfanswm y cicie cosb ac fe ddaeth hanner rhai Cymru yn y chwarter olaf.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.
Pob clod i'r bowlwyr am fowlio mor dda ar lain oedd yn helpur bowlwyr cyflym.
O safbwynt tuth y stori mae deallusrwydd cyflym ac ymwarediad uchelwrol y cymeriadau yn ennill anfesuradwy am ein bod yn cael gwared a'r pwysigogrwydd' trymaidd a hirwyntog sydd mor aml yn cymylu'n delwedd ni o'r cyfnod.
Dim villa wedi ei warchod â thrydan, dim gwarchodwyr a chþn Alsatian, dim ceir cyflym, dim chauffeurs, dim tâl a gwasanaeth gan y cynorthwywyr enwog pwerus, gan y gwasanaethau cudd, y llywodraethau militaraidd, y mudiad ODESSA - dim o'r dwli papur newydd hwn.
Y mae'r olaf yn cyflym adennill ei nerth ac yn medru ailgydio mewn bywyd gyda brwdfrydedd.
Hynny yw, mae wedi paratoi'r ffordd i "ddatblygu% cyflym.
Ni allai'r brecwast orffen yn ddigon cyflym, a'r funud y symudodd yr ymwelydd o'r bwrdd rhuthrodd fy mam i fyny i'w ystafell a gweld bod y lliain glân eto yn llinellau duon drosto.
Agorwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf hanner canrif yn ôl i gynnal y diwylliant a'r iaith Gymraeg ymhlith plant tref fechan Aberystwyth a oedd yn cyflym ymseisnigo.
Wrth iddo gyrraedd yn ôl i'r harbwr gwelodd Jabas fod y cwch cyflym yn dal wrth angorion y Wave of Life, ond suddodd calon Jabas wrth weld ei dad a dau o'i bartneriaid yfed yn rhefru ar ben wal y cei.
Cafodd Matthew Hoggard, y bowliwr cyflym o Sir Efrog, ei ddewis i'r tîm wrth i Loegr hepgor troellwyr yn gyfan-gwbl ar gyfer y gêm hon.
Erbyn hyn, mae rhyw stryffig o'm cwmpas yn y tren, ac mae arian yn newid dwylo rhwng pobl a'r giard a llawer o Hindi cyflym yn cael ei siarad.
Nid yw hyn o angenrhaid yn golygu dosbarthiadau cadw'n heini o'r math 'aerobig' egniol, mae'n golygu cyfnodau eithaf hir o weithgaredd lle nad ydych yn cael eich gwthio i'r eithaf e.e., cerdded yn eithaf cyflym, loncian ar gyflymdra cyfforddus, nofio neu seiclo.
Roedd swn cyson y chwib yn cyflym yrru'r ast yn wallgo, a meddai Roci wrth y crwt bywiog.
Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.
Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.
Trodd y tri arall a gweld cwch modur cyflym wrth y lanfa.
Gwnaeth Anna nodiadau cyflym yn ei phen ac yn fuan, trwy hynawsedd agored Cathy, roedd yn gwybod cyflymder y cwch, lleoliad popeth o bwys a hyd yn oed pwy fyddai'n arfer criwio i'w thad.
Fe fyddai'r gwr ifanc gyda'i fowlio cyflym a'i fatio yng nghanol y rhestr yn aelod gwerthfawr o unrhyw dîm.
Dyn main, cyflym ar ei droed ydoedd.
Yn y man gwag wrth wal y cei lle'r arferai'r Wave of Life angori roedd chwip o gwch cyflym.