Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfnewidiadau

cyfnewidiadau

Oherwydd gwelai Rhigyfarch y Normaniaid yn ail-lunio'r clas yn Llanddewi Brefi; ac yn wir nid oes gennym dystiolaeth bendant i'r clas oroesi'r cyfnewidiadau a ddaeth yn eu sgîl.

Ac yn ail, y mae'n ystyried y cysylltiad rhwng brwydr Cymru a'r cyfnewidiadau chwyldroadol yn Nwyrain Ewrob.

Daeth yn argyfwng ar ôl is-etholiad Trefaldwyn a oedd yn un ardd i'r Blaid, mewn sir lle y mesurir cyfnewidiadau mewn ysbaid o amryw o genedlaethau.

Bellach yr oedd cyfnewidiadau ar gerdded a phob yfory yn llawn posibiliadau newyddion.

Y pendilio rhwng y ddau begwn - Natur a Phersonoliaeth - sy'n esbonio'r cyfnewidiadau yn ymagwedd y cyhoedd at wyddoniaeth a gwyddonwyr.

A'r cyfnewidiadau crefyddol y mae a wnelo Dr Densil Morgan.

Bu cyfnewidiadau cymdeithasol aruthrol yng Nghymru yn y chwarter canrif diwethaf.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Achosion Cyfnewidiadau

Ar ben hynny, un ymhlith sawl cyfeillach oedd hon a rhyngddynt yr oeddent yn dechrau hybu cyfnewidiadau yn nhrefn gwasanaethau'r eglwysi a oedd yn groes i ofynion y Llyfr Gweddi Gyffredin.

Gan fod busnes yn weithgarwch sydd yn ymestyn dros gyfnod, mae cyfnewidiadau dros amser yn aml yn bwysicach na'r sefyllfa fel y dangosir hi yn y ffigurau ar ddyddiad arbennig.

Nid oes i'r ddrama raniadau yn ôl Act a Golygfa ond defnyddir cyfnewidiadau goleuo i alluogi i'r ddau grŵp o gymeriadau newid lle ar y llwyfan.

Ond yr oedd cyfnewidiadau mawr ar y trothwy.

Peidiodd Y Rhondda a bod yn gwm diwydiannol a rhannodd gydag ardaloedd tebyg y cyfnewidiadau ysgytiol a ddilynodd gwymp yr hen ddiwydiannau trymion - glo, dur a llechi.

Efallai bod mwy nag un ffactor yn gweithredu; yr hyn sy'n bwysig ydyw ceisio cael darlun llawn o'r sefyllfa, ac yna dod o hyd i'r rhesymau am y cyfnewidiadau.

Wrth ddadansoddi'r cyfrifon, un nod yw dirnad achosion cyfnewidiadau.