Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfoethog

cyfoethog

Ffuretwr ydw i." "Ffu..ffu..." Taflodd ei phen yn ôl yn flin, a disgleiriai lliw cyfoethog ei gwallt yng ngolau pŵl braidd y cyntedd mawr.

Ond yn wir meddaf i chwi, er y diwrnod hwnnw, fe gymer y gŵr cyfoethog sylw manwl o'r wraig dlawd, ac efe a aiff heibio iddi gyda gofal.

Y New Statesman a'r Daily Telegraph oedd y papurau newydd y byddai'n eu darllen sydd yn dangos nad oes raid i'ch gwleidyddiaeth chi gydfynd â'r papur newydd 'dach chi'n ei ddarllen bob tro!' 'Y mae i Glynllifon, lle lleolir yr Eisteddfod eleni, hanes cyfoethog.

Hynny yw, yn ein profiad beunyddiol, cyn inni roi ein cyneddfau gwyddonol ar waith, yr ydym yn gweld y byd yn ei gyfanrwydd cyfoethog.

yn sicr, o dderbyn y sbardun hwn yn y llafar a'i barhau o fewn yr un thema gyda'r darllen, yna, byddai'r dasg ysgrifenedig yn manteisio ar y cefndir cyfoethog hwn.

Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.

Dim ond distawrwydd y coed pin, sisial y nentydd bychain, disgleirdeb yr eira ac ol troed anifeiliaid bach ynddo, lliwiau cyfoethog yr haul a godidowgrwydd yr olygfa.

Ceisiwch osgoi saws cyfoethog a dewiswch salad ffrwythau neu ffrwythau ffres fel melysfwyd.

Ni all na chafodd Daniel Owen ei fam a'i chof cyfoethog yn dipyn o athrawes er nad oedd ef, mae'n siwr, yn adnabod yr hyn a gafodd ganddi fel addysg.

Soniodd Syr Thomas Parry-Williams wrthyf un tro i gasgliad cyfoethog anghyffredin o lyfrau prin gyrraedd siop Galloway.

Mae ei gwaith gwyddonol yn un dernyn yn mrithwaith cyfoethog ei pherthnasau cyfan.

Roedd yn ddigon bodlon i'w briodi yn ei dlodi ond roedd ei thad yn awyddus iddi fachu rhyw ffermwr neu siopwr cyfoethog.

Doedd dim gwyr bonheddig yn trigo o fewn yr ardal, ac yno doedd neb ond clerigwyr i lenwi'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

(ii) Y dyn cyffredin, coler las yn cael y gorau ar y dyn cyfoethog - ond yn colli yn y diwedd.

'Y plant troednoeth cyfoethog'.

Ond yr oedd yn byw bywyd gwr cyfoethog tu hwnt.

Y canlyniad oedd i aelodau ei ddosbarth ddod yn ymwybodol eu bod yn perthyn i draddodiad cyfoethog.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Dyma oes y Siartwyr ym Mhrydain, a'r chwyldroadau yn Ffrainc ac Awstria.Dyma oes y gorthrwm ar ran y cyfoethog, yr ymosodiad gan berchenogion tir ar eu tenantiaid.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

Ryw ddydd, efallai, byddai'n ddigon cyfoethog ei hun, gan ei fod yn dechrau casglu symiau go fawr erbyn hyn a chreu cysylltiadau elwgar ym mhlith brodyr ariannog y deyrnas - gwobrau llwgr ei swydd.

Ei nod, fel Eliot o'i flaen, oedd 'cadw mewn llenyddiaeth y syniadau mawr cyfoethog sydd mewn Cristnogaeth'.

Mae'r iaith yn rhwydd i'w darllen - heb fod yn nawddoglyd - gyda thoreth o eiriau cyfoethog.

Ond sut mae egluro ymddygiad treisgar mewn trefi cyfoethog yng Ngorllewin yr Almaen?

Symbolau eraill cyfoethog yn y ffilm yw'r modd awgrymus y defnyddir arwyddion ffyrdd.

Mae'n diolch i Glyndwr a Gwen yn fawr, am eiriau, am weithredoedd a chyfraniadau cyfoethog.

Dim ond y cyfoethog all brynu bwyd.'

Meddiannai'r gorffennol ystordy cyfoethog o wybodaethau.

Pan welodd gwr Aberceinciau y dieithryn cyfoethog yn dod i'w gyfarfod fe ymosododd amo a'i ladd.

Ys dywedodd Marti, 'Dyw annibyniaeth wleidyddol ddim yn bosibl heb annibyniaeth economaidd' - yr union beth sy'n amhosibl mewn gwlad fechan heb fawr o adnoddau naturiol cyfoethog.

Yn wir, gyda'i lais cyfoethog ymddangosai'n debyg mai ef fyddai enillydd y noson.

Canys fe all gwraig dlawd ar risiau â darn mawr o sebon gwyrdd ddileu pob meddwl am fyd busnes ym meddwl gŵr cyfoethog, yn dra effeithiol.

Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.

Sonia'r Beibl am Dduw yn dewis Asyria neu Fabilon i wneud ei waith, ac y mae'n ddigon naturiol credu, fel y gwna rhai, ei fod wedi dewis Groeg a Rhufain hefyd, gyda'u diwylliant cyfoethog, i dasg arbennig.

Rhaid deall fod gwerthu tai yn gyson i fewnfudwyr cyfoethog yn gymaint o drychineb â rhoi'r Wyddfa ar y farchnad agored.

A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.

Neu ai trwy gydweithio law yn lllaw i gyrraedd y nod o sicrhau yr addysg orau i bawb yn ein cymuned i bob plentyn yn y sir beth bynnag fo ei gefndir, tlawd, cyfoethog, y Cymraeg neu'r di-Gymraeg?

Wel, hanes cyfoethog, atyniadau diddorol a diwylliant bywiog sydd wedi cynhurchu rhai o sêr action, canu clasurol ac adloniant ysgafn enwoca' Cymru.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.

Ond un diwrnod daeth gūr bonheddig cyfoethog ar gefn march glas i Aberceinciau gan holi am ūr y tū a phan ddeallodd ei fod wedi mynd i Abergwesyn fe aeth i'w gyfarfod.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Chwith meddwl na welwn eto y wen yn llenwi ei hwyneb, nac ychwaith glywed ei llais cyfoethog pan fyddai yn cyfarfod a'i chyn-ddisgyblion.

Mae'n briod â dyn cyfoethog yn Llundain, ac mae'n cyfrannu i gylchgrawn Harpers & Queen.

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.

Mae'n blanhigyn cyfoethog mewn mineralau a fitaminau ac fe'i gwerthid mewn marchnadoedd ers talwm; rhowch gynnig ar y dail mewn salad ryw dro.

"Cyfoethog anghyffredin" - dyna'r disgrifiad priodol o'r llyfrau a'r hen newyddiaduron hynny.

Bu ganddo Gwrs Arbennig ar yr emyn am flynyddoedd, a lluniodd ysgrifau cyfoethog ar emynwyr, ar Williams, ar Benjamin Francis, ar rai o emynwyr Môn ac eraill.

Ond nid oedd raid i Gymro fynd nor bell oddi cartref, oherwydd gallai dynnu ar draddodiad cyfoethog o ganu moliant yn ei iaith ei hun.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.

Gwnaeth llais cyfoethog Tom Slater a ganai ran Faust argraff arbennig, yr oedd fel nofio trwy fêl.