Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfraith

cyfraith

Dwi ddim o blaid tor-cyfraith.

Gwyddai'r llywodraethwyr yn iawn na allai cyfraith sicrhau fod pobl yn siarad Saesneg ar eu haelwydydd neu yn eu sgyrsiau preifat â'u ffrindiau.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Yn ôl cyfraith gwlad yr oedd rhaid ei gladdu wedi machlud haul gan nas bedyddiwyd.

Y canlyniad fu'r Welsh Courts Act, 1942, deddf seneddol a ddiystyrodd holl fwriad y ddeiseb ac a adawodd y Saesneg o hyd yn unig iaith swyddogol y llysoedd cyfraith a'r gwasanaethau cyhoeddus oll.

Ac mae academydd, Gareth Thomas, sy'n sgrifennu llyfrau am dor-cyfraith, hefyd yn dangos diddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd.

Rhaid cydnabod fod grym yn y ddadl mai mater i'r Cyd-Bwyllgor Addysg oedd hyn, ond mater o farn ac nid cyfraith oedd hynny.

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Mae Peter Nicholas, Rheolwr Y Barri, yn bygwth cyfraith ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn dilyn y penderfyniad i ail-chwarae'r gêm a ohiriwyd ar ganol amser ychwanegol, ar faes TNS (Llansantffraid) - nid ar Barc Jenner.

Bu'n rhaid i gyd-gadeirydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Branwen Brian Evans o Aberystwyth, dreulio awr a hanner yn Swyddfa'r Heddlu Aberystwyth neithiwr (Nos Lun Rhagfyr 4ydd). Cafodd ei holi ynglŵn ag ymgyrch dor-cyfraith y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei gynnal yn erbyn Coleg Ceredigion.

Digon tlawd eu byd oedd y rhain yn aml, ac yn dlotach am fod y rhan fwyaf ohonynt yn mynnu herio cyfraith ganon yr eglwys a phriodi !

Er bod y Czar wedi ffurfio Duma mae'r aniddigrwydd yn parhau yn Rwsia gyda 1,500,000 ar streic, dim cyfraith a threfn.

Gwrthdrawent naill ai yn erbyn cyfraith y wlad neu ynteu fursendod yr oes.

Byddai hynny, o'i osod mewn cyd-destun ehangach yn gymdeithasol, yn gymorth i hybu cyfraith a threfn.

'O'r cychwyn, parodrwydd aelodau'r Gymdeithas hon i gyflawni tor-cyfraith … a roddodd rym ac arddeliad i'w hymgyrchoedd.

Ond, wrth gwrs, yn wyneb gofynion y Ddeddf Uno, Saesneg fyddai iaith llys, marchnad, cyfraith a gweinyddiad sifil.

Ond o'n safbwynt ni, yn bwysicach na'r ffynhonellau hyn, mae i'r egwyddor safle arbennig mewn cyfraith gyfansoddiadol, oblegid bu swydd iddi yng nghyfansoddiad yr Almaen.

Yr oedd gan Sgotland eisoes fesur o ddatganoli - ei sustem cyfraith ei hun ac Ysgrifennydd Gwladol gyda sedd yn y Cabinet.

Eto, yng ngras cyffredinol Duw, ymddiriedwyd y cyfrifoldeb i'r llywodraeth i weinyddu cyfraith a threfn.

A dyna ydan ni'n ei wneud, a dwi'n gweld fod tor-cyfraith dan unrhyw amgylchiadau ddim yn dderbyniol.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Un o'r rhain oedd ysgol Bryncroes ym mhen draw Llyn a chau fu raid i'r ysgol honno er gwaethaf ymdrechion caled a gweithredu tor-cyfraith pan feddiannwyd yr ysgol a'i rhedeg yn wirfoddol.