Nid mater cyfreithiol a swyddogol yn unig oedd hyn.
Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.
Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.
A pha amodau cyfreithiol y gellid eu gosod?
Wrth i John Griffith gerdded ar hyd yr harbwr yn Efrog Newydd, fe fyddai wedi gweld rhai o'r bobl dduon a oedd newydd gael eu rhyddid rhag caethwasiaeth ac fe fyddai wedi clywed peth o'r siarad am y symudiadau cyfreithiol i roi hawliau iddyn nhw.
Bu mater cyfreithiol, ymddangosiadol ddibwys, yn foddion i gychwyn y cynhennu a chododd cyn bod yr esgob newydd wedi prin gael amser i ddadbacio.
Ar ôl dweud hyn yna, sut bynnag, dylwn ychwanegu hyn: sef bod defnydd ehangach o sieciau Cymraeg, o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg (megis ewyllysiau a gweithredoedd eiddo) nag a fu.
Deellir fod y clwb yn parhau i ystyried cyngor cyfreithiol.
Er mai ganddo ef mae'r hawl cyfreithiol i benderfynu y mae ei bendderfyniad yn gwneud nonsens o ddatganoli a democratiaeth.
Yn gynharach, gwrthododd Llys Goruchaf Florida gais gan dîm cyfreithiol Mr Bush i ddiddymu'r cyfri â llaw yn y dalaith.
Y person neu'r personnau cyfreithiol a enwir ym Manylion y Cwmni ("Y Cwmni%)
Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.
Prydeinig bellach oedd cenedligrwydd cyfreithiol y Cymry.
Mae'r gwaith yn cael ei oruchwylio'n gyson ac mae'n cyrraedd y safonau cyfreithiol.
Honnai'r naill blaid a'r llall fod y gwrthwynebwyr yn atal papurau cyfreithiol oddi wrth ei gilydd.
Gwnaed ymdrech unwaith i anwybyddu stori am aelod parchus o'r sefydliad yng Nghymru a gyhuddwyd o gyflawni trosedd cyfreithiol difrifol iawn.
O'r adeg yr ymunodd hi â'r cwmni fel clerc roedd Robin wedi ei rhybuddio droeon rhag ymwneud yn rhy emosiynol ag achos cyfreithiol.
Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi peth cydraddoldeb i'r iaith drwy ganiatâu fersiynau Cymraeg o ffurflenni swyddogol a chaniatâu defnydd o'r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol.
Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Drwy hynny, byddai dogfennau llys barn, sieciau, tyst-ysgrifau geni, priodi a marw, a phob math o bapurach cyfreithiol a swyddogol o'r un grym yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Felly nid oes unrhyw demtasiwn i gyfreithiwr Prydeinig ddechrau achos, nid am fod yr amddiffynnydd o feddyg wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond yn y gobaith y bydd y cwmni yswiriant yn dewis talu iawndal yn hytrach na wynebu'r draul enfawr o gynnal achos cyfreithiol maith.
Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.
Yn anffodus nid oes gan BT ddewis yn hyn o beth gan fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i warantu gwedduster cynnwys unrhyw negeseuon yr ydym yn eu cludo ar ein rhwydweithi.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi peth cydraddoldeb i'r iaith drwy ganiatâu fersiynau Cymraeg o ffurflenni swyddogol a chaniatâu defnydd o'r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol.
Problemau cyfreithiol a chymdeithasol
Nid llys cyfreithiol, llawn oedolion mo llys Mae Gen i Achos.
Canys mae gwasanaeth cyfreithiol newydd yn bodoli ers dechrau'r flwyddyn hon, sef y cynllun Cyfreithiwr Dyletswydd.
O ran cenedligrwydd cyfreithiol, Saeson oedd y Cymry yn awr, er i'r cof am wlad a chenedl ar wahân gael ei gadw'n fyw gan yr ymadrodd "Lloegr a Chymru%.
HERALD", ac yn aml fel atodiad "Ruabon Case%, canys yr oedd gan y golygydd eithaf deall o apel achosion cyfreithiol at y dyrfa ac yn Rhiwabon yr eisteddai'r ustusiaid.
Nid statws cyfreithiol y darparwr ddylai benderfynu a yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.
Mae rheidrwydd cyfreithiol ar wasanaeth erlyniad y wladwriaeth i atal cyhoeddi'r papur newydd, ond nid yw wedi gwneud hynny.
Ond fe fu adegau yn ystod y can mlynedd o amgau cyfreithiol gan ŵyr ariannog, pan wrthwynebai'r werin unrhyw awdurdod a ddygai'r 'comin oddi ar yr ŵydd.' Felly y cyflwynir yma'r Sais Bach ,mewn sawl delwedd, a Jennings fel gŵr a gafodd gam.
Galwn ar y Llywodraeth a'r Gwrthbleidiau i ddiwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a gosod seiliau cyfreithiol cadarn iddi, ynghyd â gweithredu strategaethau ymarferol a phellgyrhaeddol.
Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.
Roedd y pâr ifanc wrth gwrs yn llawn galar a thrallod, ond hefyd yn ddigon ymarferol eu meddyliau i sylweddoli fod rhaid cael yr hen fodryb adref iw chladdu, gan wybod am yr holl drafferthion cyfreithiol a swyddogol fyddai hynny yn ei olygu mewn lle fel Sbaen.