Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrinach

cyfrinach

Onid tosturi a deall pobl fach unigol oedd cyfrinach yr Iesu?

Cyfrinach llwyddiant Merch Gwern Hywel yw fod yr ymdeimlad o 'fyw trwy'r digwyddiadau' wedi'i drosglwyddo iddi, a'n bod ninnau'n cyfranogi o gynnwrf yr ymrafaelion diwinyddol fel petaem yn gyfoes a hwy.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Dyna'u cyfrinach, rwy'n meddwl, sef eu bod yn deffro pobl o'u trwmgwsg a pheri iddynt ail-fyw profiadau cyffrous.

Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.

Jones a ni i ganol y Diwygiad Methodistaidd yn ei Cyfrinach Hannah, sef dyddiadur un o 'forynion' Hywel Harris yn Nhrefeca.

Yma yr oedd cyfrinach gwefr y Diwygiad.

Cyfrinach medr Dafydd wyneb yn wyneb â Goliath oedd ei ymwybyddiaeth o'i ddiffyg maint a'i ddiffyg nerth.

Ac mi wyddai pawb fod drych myglyd yn adlewyrchu llun yn llawer mwy ffafriol; onid dyna oedd cyfrinach rhai o'r ffotograffyddion a'r sêr mwyaf enwog?

Mi fyddai pob cyfrinach a glywai'n mynd i mewn drwy un glust ac allan drwy'r llall i'r holl gwmpasoedd, a'r llyn yn ddwywaith ei faint.

Yn y sylweddoli hwn y mae cyfrinach nerth ysbrydol.

Ac ni wyddai neb eu cyfrinach!

Ceir swyn serch arall sy'n dweud y gall bachgen ifanc ennill cariad merch wrth roi darn o wm cnoi iddi ar ôl iddo ddweud cyfrinach ei gariad wrth y gwm.

Os oes cyfrinach gen ti, paid ai datgelu.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Gallwn yma sôn am amryw ddulliau i ddenu blaidd y dwr, ond yr wyf am rannu cyfrinach - gan ei bod yn gyfnod ewyllys da.CHWILIO AM DEGEIRIANNAU - Eluned Bebb Jones

Daw'n amlwg yn y man fod y cyfaill hefyd yn fab i un o'r troseddwyr Natsi%aidd, ond y mae ef wedi diarddel ei dad, yn wahanol i'r adroddwr, sy'n mynnu cadw cyfrinach ei dad er ei fod yn llawn sylweddoli difrifoldeb ei droseddau.