Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfryngau

cyfryngau

Ond gwelir y pwyslais o hyd ac o hyd ar y ddadl fonetaraidd gul o 'Proffit, Proffit a mwy o Broffit.' Nid oes angen dweud nad yw'r cyfryngau hyn yn gweld gwastraff gwariant ar y lluoedd arfog.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Y mae'r wybodaeth a gesglir trwy'r cyfryngau hyn yn anhepgorol i'r perchennog neu'r rheolwr, er mwyn iddo osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gwella perfformiad y busnes.

"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.

Mae James yn gweithio yn y cyfryngau ar hyn o bryd yn rhoi sylwadau ar Abertawe i gwmni radio lleol.

Lle bo ansawdd yr addysgu'n dda, bydd cynllunio'r cwricwlwm yn adlewyrchu rhaglenni astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn rhoi ystyriaeth i ryngberthynas gwaith llafar, darllen ac ysgrifennu ac yn cynnwys elfennau megis gwybodaeth am iaith, drama, addysg y cyfryngau a thechnoleg gwybodaeth.

Rhaid cymryd y teledu a'r ffilm gymaint gymaint o ddifri fel cyfryngau a'r nofel neu'r ddrama lwyfan.

Fe ddylai pawb sy'n ennill ei fara yn y cyfryngau yng Nghymru ddarllen y gyfrol yma.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

Yn gyntaf nid yw'r Cynulliad yn gweithredu polisi o ddwyieithrwydd gweithredol ac yn ail ymddengys nad yw'r cyfryngau ar y bwletinau newyddion Saesneg yn gwneud cyfiawnder â'r aelodau hynny sy'n dewis siarad Cymraeg.

Mewn cyfarfod arbennig yng Nghaerdydd heddiw, penderfynodd Awdurdod S4C y bydd 99% o'r arian a dderbynnir o'r DCMS (Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon) yn 2000 a 2001 yn cael ei wario ar y gwasanaeth rhaglenni.

Efallai'n wir fod y nofel wedi tyfu o ran statws yn sgil datblygiad y cyfryngau torfol.

Yn ^ol Marx, mae'r uwch-ffurfiant yn cyflawni ei swyddogaeth o gyfreithloni'r cysylltiadau cynhyrchu sy'n bodoli yn yr is-ffurfiant trwy hyrwyddo ideoleg y dosbarth rheoli yn yr ysgolion, y cyfryngau, y gyfraith, etc.

Er na chafodd hynny lawer o sylw gan y cyfryngau, rhoddwyd adran gyfan yn y Cytundeb ar hybu'r iaith.

Ac eithrio Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, a fu'n gyfrifol am gydweithio ar raglen beilot gyda Bethan ar gyfer y gyfres, mae'r ysgolion sydd wedi eu gwahodd i ymddangos yn y gyfres yn rhai nad ydynt fel arfer yn cael sylw gan y Cyfryngau, yn ol Bethan.

Aur yn sgîl yr arian - y Gemau Olympaidd Fe wnes i fwynhaur Gemau Olympaidd, a hynny er gwaetha clochdar y cyfryngau am lwyddiannau Prydain.

Daeth i'm meddwl eleni mai'r garddwyr mwyaf llwyddiannus yw'r rheini a all addasu eu syniadau ar gyfer yr hyn ganiatâ'r tywydd iddynt ei wneud yn hytrach na dilyn dyddiaduron garddio a rhaglenni'r cyfryngau.

Wrth annerch cynhadledd ar Entrepreneuriaeth a Busnesau Bychan yn y Cyfryngau, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Hydref bydd HUW JONES, Prif Weithredwr S4C, yn dadlau fod yn rhaid derbyn bod impact economaidd ac effaith bendant S4C ar fusnes a bywoliaethau yn bell gyrhaeddol.

Mae traed yr awdur ar y ddaear ac mae'r diweddglo yn nodi cyfraniadau'r cyfryngau mwy cyfoes i'r Gymru rydan ni'n byw ynddi.

Cyn bo hir bydd tudalen gerddoriaeth yn niffyg unrhyw sylw gwerth chweil gan y cyfryngau Cymraeg eraill, a thudalen yn canolbwyntio ar un cell/rhanbarth pob rhifyn.

Ni lyncwyd Alun Jones nac Aled Islwyn gan y cyfryngau, ac er bod William Owen Roberts yn ennill ei fara menyn ym myd y teledu, mae'n ymddangos fod y nofel yn gyfrwng a apeliodd yn arbennig ato am ei bod yn rhoi cyfle iddo fynegi'i weledigaeth mewn modd mwy myfyrdodus na'r teledu.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Mae ambell broblem yn gyfarwydd i newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau ymhobman ond eu bod yn cael eu gwneud yn amlycach trwy fod mewn gwlad dramor.

Yr oedd y wasg ar cyfryngau ar ben eu digon yn adrodd gydag edmygedd am ei arwriaethau.

Priodolwyd cyflwr gwrthryfelgar y boblogaeth i'r ffaith fod cyfryngau addysg yn brin, yn arbennig felly, addysg Saesneg.

Prif gorff Cymru ar gyfer ffilm, teledu â'r cyfryngau newydd.

Llwyddwyd i gael rhai o sêr y cyfryngau i annerch y dorf, canwr pop, actor enwog a chyn-chwaraewr rygbi.

Faint o'r werin hon sydd heddiw yn derbyn 'propaganda' toreithiol y cyfryngau (ac yn hyn o beth mae Radio a BBC Cymru wedi bod ar eu huchelfannau) sydd yn barod i grogi ei harweinydd Arthur Scargill o'r 'Gibbett' agosaf?

Sgrîn - cefnogir asiantaeth cyfryngau Cymru, sy'n hyrwyddo'r diwylliant a'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru gan ddarlledwyr, y WDA, TAC ac eraill.

Mae'r Cynigion hyn yn ymwneud â: · Gweinyddiaeth fewnol Cyrff yng Nghymru · Y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol · Y Cyfryngau a iaith y Cyfryngau yng Nghymru · Gwasanaeth Suful Cenedlaethol i Gymru · Papur Dyddiol Cymraeg · Addysg Bellach yng Nghymru · Tai a Chynllunio yng Nghymru · Cymreigio Cyfrifiaduron Nid cynigion yn unig fydd yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol.

Nid yw'r llywodraeth yn caniata/ u i'r cyfryngau ddarlledu lleisiau ei harweinwyr a'r unig beth a wyr pobl am y blaid hon yw ei bod yn cefnogi ymgyrch dreisiol yr IRA.

Roedd ymgais amlwg i gadw Wigley'n arbennig o'r cyfryngau ac o'r papurau Cymreig.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Gan mai ychydig o sylw, a hwnnw'n aml yn ddirmygus, a roddodd y cyfryngau cyfathrebu i ymdrechion heddychwyr, y mae'n hynod werthfawr cael ymdriniaeth feistraidd fel hon.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Eithrir y tiriogaethau a/ neu'r cyfryngau canlynol:

Awgrym beirniad yn y National Post oedd y dylai Bellow - a gyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1944 - ac eraill tebyg iddo roir gorau iddi er mwyn ei gwneud yn bosib i'r cyfryngau roi mwy o sylw i awduron ifanc, newydd.

Yn y blynyddoedd diwethaf clywyd llawer o son ar y cyfryngau am ddatblygiadau meddygol mewn dulliau cenhedlu.

Mae'r gystadleuaeth o du'r cyfryngau torfol yn fwy bygythiol.

Mae pedwar deg y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd problemau personol; dau ddeg saith y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd dylanwad y cyfryngau.

Onid tasg gyntaf Wigley a'i gydAelodau Seneddol felly ydi mynnu bod y cyfryngau a'r papurau dyddiol ac wythnosol yng Nghymru yn rhoi lle priodol i'r frwydr etholiadol yma yng Nghymru fel bod cyfle felly i'r Blaid gael ei phig i mewn i'n haelwydydd?

Mae'r cyfryngau'n hael wrth y bobl hynny, a'r ymddiriedaeth yn un a berchir.

Yn gyntaf, oherwydd fod yr Wyddeleg wedi gorfodi i'r cyfryngau dderbyn datganoli. Er yn sianel genedlaethol nid yn y brifddinas ymhlith y crach - a'r tinlyfwyr - ond ym mhen draw'r byd yng Ngonnemara mae'r pencadlys.

Rhoddwyd rhywfaint o sylw i hyn yn y cyfryngau Cymraeg.

Dylid ystyried sut y cynllunnir gwaith; cydbwysedd y dulliau addysgu a threfniadaeth y dosbarth; ansawdd cyfraniadau'r athro; cyflymder a phriodoldeb y gwaith ar gyfer oedran a gallu'r disgyblion; y cynnydd a wneir tuag at ddarllen cyson ac ysgrifennu estynedig; darpariaeth ar gyfer drama, addysg y cyfryngau a gwybodaeth am iaith; defnyddio technoleg gwybodaeth a'r llyfrgell.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Mae denu'r cynyrchiadau yma wedi bod yn llwyddiant mawr i Huw Edwin, swyddog datblygu cyfryngau Cyngor Sir Gwynedd, sydd wedi chwarae rhan reit helaeth yn y trafodaethau gyda'r cwmniau.

Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.

Mae BAFTA Cymru yn ymroddedig i ddod â phobl o bob rhan o'r diwydiant cyfryngau at ei gilydd i drafod, rhwydweitho ac ymchwilio pynciau perthnasol a chyfoes a chynorthwyo i wella safonau drwy hyfforddiant, gweithdai a dangosiadau.

Yn y wasg ac ar y cyfryngau maen cael ei disgrifio fel cyfres y tu hwnt o boblogaidd.

Maen debyg y bydd yn rhaid iddo dawelur dyfroedd gan fod rhai o aelodaur Undeb yn flin iawn nad aeth Pwyllgor y Llewod drwyddyn nhw, a mae'r cynta glywson nhw fod Henry wedi cael cynnig y swydd oedd yn y Wasg ar cyfryngau.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.

Gall y cyfryngau hyn hefyd chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hybu defnyddio'r Gymraeg a magu hyder ymysg ei siaradwyr.

Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes.

Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.

Gan ei bod hi mor anodd cael atebion i'r cwestiynau hyn trwy'r cyfryngau Seisnig, euthum ati i geisio'r atebion.

Yr ydym yn dathlu'r ffaith fod yr hyn oedd yn hen ffatri Corona wedi ei drawsnewid yn ganolfan newydd, state of the art i'r cyfryngau a thalent newydd y byd cerddorol gan Emyr Afan ai gwmni, Avanti.