Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfundrefn

cyfundrefn

At ei gilydd gellir disgwyl i'r oediad gweithredu fod dipyn yn llai gyda llywodraeth seneddol nag mewn cyfundrefn arlywyddol.

Ac yn ei sgil, cyfundrefn y frawddeg aeddfed.

Fy marn i yw mai'r hyn sy'n esbonio amrywiol gyfeiriadau ymchwil y Llyfrau Gleision yw bod y Llywodraeth, a chymryd pethau yn y modd symlaf posibl, yn awyddus i weld sut y gallai hi wella'i gafael ar ymddygiad y Cymry, ond fod Kay-Shuttleworth, ac efallai Symons a Johnson, yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth ddigamsyniol dros sefydlu cyfundrefn o addysg wladol - ac nid i Gymru'n unig swydd.

Credent fod yr holl adroddiad, oherwydd y dewis o Ddirprwywyr a chynorthwywyr, yn rhan o gynllwyn bwriadol i hyrwyddo amcanion Pwyllgor y Cyngor dros Addysg, a chreu cyfundrefn addysg wladwriaethol a fyddai'n hybu egwyddorion yr Eglwys Sefydledig.

Rhai o'r pynciau y cafwyd darlithoedd arnynt oedd Cyfundrefn Addysg Cymru, y Llysoedd Barn, Pwerau Cynghorau Lleol, Cyllid Cymru, a Phropaganda'r Blaid.

Mae'n annheg, yn eu barn hwy, fod gan y Prydeinwyr bedwar cyfle - a ninnau, fel hwythau, yn un cyfundrefn wleidyddol.

"...rhan gyflawn o'n cyfundrefn addysg ac mae gan blant ag anghenion addysgol arbennig yr un hawl â phlant eraill i gael yr un ystod lawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm â'u cyfoedion."

(Yng ngwledydd Canolbarth Affrica, y mae'r tyfiant hwn yn effeithio ar blant yn hytrach nag oedolion, ac nid oes sicrwydd fod y ddau yn union yr un afiechyd.) Eto, y rheswm sylfaenol dros ymddangosiad y tyfiant yw cyfundrefn imwn ddiffygiol.

A dyna sut y cafwyd cyfundrefn addysg maes o law nad oedd wahaniaeth rhyngddi a chyfundrefn addysg Lloegr.

Mae darparu ar gyfer addysg Gymraeg yn ganolog i'n cyfundrefn ni.

Mae angen sicrhau parhad cyfundrefn o'r fath yn y dyfodol er mwyn gweld cynnydd pellach yn y ddarpariaeth i ateb gofynion teg yr ysgolion.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu o blaid Deddf Eiddo er mwyn sicrhau cyfundrefn gynllunio a pholisi tai tecach i Gymru.

Wrth ddathlu pen blwydd stiwdio Bangor yn hanner cant oed, cofio yr ydym am gyfraniad Bangor i un arall o'r sefydliadau hanfodol hynny, sef cyfundrefn radio a theledu cenedlaethol.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

Roedd cyfundrefn newydd Castro, fodd bynnag, yn dipyn o fedydd tân.

Mae'r neges yn gyson - rhaid datblygu cyfundrefn sy'n parchu yr amgylchfyd - a chofleidir, gydag argyhoeddiad amrywiol, yr egwyddor o ddatblygiad cynaladwy.

A yn ei flaen i awgrymu mai un ateb i'r dirgelwch yw fod y Llywodraeth yn ystyried Cymru fel maes posibl i leoli cyfundrefn arbrofol o addysg wladol.

Bodolai cyfundrefn genedlaethol o ysgolion plwyfol mewn nifer o wledydd Protestannaidd fel yr Alban, Llychlyn, Prwsia ac, i raddau llai, Estonia a Latfia.

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Mae'n wir bod cyfundrefn addysg - gynyddol bwysig - yr ysgolion gramadeg a'r prifysgolion yn milwrio yn ei herbyn, ac yr oedd tuedd ymhlith rhai o'r dosbarth masnachol hefyd i anghofio eu Cymraeg, yn ol tystiolaeth John Davies.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Yr wyf yn credu mai trefn cynnydd yw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod; neu mewn geiriau eraill, twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Mae darparu aar gyfer addysg Gymraeg yn ganolog i'n cyfundrefn ni.

Y mae hi mewn perygl o droi'n wlad gref a gwahanol, ac felly rhaid cynllwynio i atal hyn, a honiad un o'r cythreuliaid yw ei fod wedi rhoi'r syniad ym mhen y Llywodraeth bod yn rhaid dyfeisio cyfundrefn o addysg (t.

Yr unig ffordd y gall cwmnïau fel hyn sicrhau statws i'r Gymraeg yw trwy sefydlu cyfundrefn ddosbarthu nwyddau ar wahân i Gymru.

Yn ail hanner y ganrif ddiwethaf meddai ar ddigon o allu i osod cyfundrefn addysg orfodol gwbl Saesneg ar y wlad; a phan ecsploetiwyd adnoddau naturiol a dynol Cymru yn ddidostur gofalai mai Llundain a Lloegr a gai'r budd.