Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfuniad

cyfuniad

A phan eir ymlaen yn nes at ganol y ganrif, y mae etifeddion yr 'Ymneilltuaeth Newydd', gwyr fel Lewis Edwards, Henry Rees neu ei frawd, Gwilym Hiraethog, mewn gwahanol ffyrdd yn parhau'r cyfuniad rhwng yr hen draddodiad a'r newydd.

Gellir dadalau fod cynifer o systemau amaethu yng Nghymru ag sydd o ffermydd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r cyfuniad o ddylanawadau lleol sy'n effeithio ar ffermydd unigol.

(Gallech benderfynu defnyddio cyfuniad o fwydlenni o ddau gynllun).

Cyfuniad yw o elfennau diriaethol a haniaethol ac y mae'n gyfrwng i fynegi ymwybyddiaeth gymhleth.

Oni bai am y cyfuniad o ddyfeisgarwch ac ystyfnigrwydd sydd wedi nodweddu ei waith tros y blynyddoedd, byddai'r rhagolygon yn dywyllach nag y maent i Gymru.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd cyfuniad o ddirywiad yn yr economi, polisi o gwtogi ar wariant cyhoeddus a rhagolygon o boblogaeth sefydlog yn arwain at leihad sylweddol yn rhan y sector gyhoeddus swyddogol ym maes darparu cartrefi.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Er mor boblogaidd oedd y cyfuniad o lun a sain yn y sinemâu, 'roedd y wasg yn gyfrwng pwerus o hyd.

Arweiniodd cyfuniad o rwystredigaeth a chasineb tuag at estroniaid at wrthyfel.

Bu'r cyfuniad o onestrwydd ac unplygrwydd a'r penderfyniad diysgog i gadw'n driw i'r ddelwedd ohoni ei hun heb geisio cyfaddawd â neb yn wrthwenwyn effeithiol i'r wên ffals'.

Yn anaml iawn y digwydd mwtaniad mewn natur a hefyd yn yr algorithm genetig, ond mae ei bwysigrwydd yn gorwedd yn y siawns o greu cyfuniad o wybodaeth newydd.

Cyrhaeddodd Phil faint dyn yn gynnar, ac yr oedd y cyfuniad o ieuenctid, cryfder corff a deallusrwydd meddwl yn gynhysgaeth angenrheidiol iddo gyflawni gwaith mor llafurus.

Rhys yw'r prif gymeriad, yn wynebu'r cyfuniad art`erol o waith ysgol a chariad cynta', ac mae'r ysgol yn llawn o gymeriadau nodweddiadol.

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Adroddodd mai cyfuniad o Arfon, Dwyfor a Meirionnydd byddai'r Cyngor newydd.

Fe ddigwydd yr elfen cemais mewn cyfuniad ag elfennau eraill mewn enwau lleoedd weithiau.

Heb sôn bod trydedd elfen yn y cyfuniad, sef gwleidyddiaeth radicalaidd, rhywbeth na chyfrannodd Christmas ati o gwbl.

O ddarllen yr holl eiriau brwdfrydig a ysgrifenwyd am Catatonia dros y blynyddoedd, maen anodd gweld sut fedren nhw fod wedi methu, gyda'r cyfuniad o bop slic a gallu cerddorol gadarn.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Bydd Huw Jones yn galw am gefnogi Cyfle a Broadcast Training Wales, gan sicrhau fod y cyfuniad o arian preifat ac arian cyhoeddus sy'n cynnal y sefydliadau hyn yn cael ei weld fel ffordd gwbl effeithiol a phriodol o yrru'r diwydiant yn ei flaen i'r dyfodol.

Cyfuniad o'r ffactorau penodol Almaenig hyn a digwyddiadau ehangach megis y rhyfel yn Fietnam oedd thema un o areithiau cynharaf Schneider.

Cyfuniad o'r ystyfnigrwydd a'r dymer a barodd iddo droi'n eglwyswr am gyfnod.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Ond y cyfuniad yma o ymddygiad hyderus a bregus syn gwneud stori Catatonian ddiddorol ac yn werth ei darllen.

cyfuniad o reddf yr artist a defnyddio technegau'n effeithiol.

Nid peth hawdd oedd egluro gorff mor rhyfedd yw S4C - cyfuniad o wasanaeth cyhoeddus, gwasanaeth masnachol, yn cael arian gan y Llywodraeth a thrwy hysbysebion ac yn derbyn arian drwy nawdd.

Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.