Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfyngiadau

cyfyngiadau

Er bod cyfyngiadau'r offer nofio tanddwr oedd ar gael bryd hynny yn rhwystr i ddatblygiad y pwnc ar y dechrau ffynnodd pan gyflwynwyd offer anadlu cylched agored, yr Aqualung.

Mae'r gweithwyr diwylliannol hyn yn darganfod bellach fod cyfyngiadau sylweddol hefyd ar fynegiant artistig yn economi%au marchnad rydd y Gorllewin.

Ers hynny bu nifer fychan o rai oedd yn bleidiol i'r iaith yn gweithio i sicrhau dyfodol iddi o fewn i'r cyfyngiadau gormesol a roed arni gan reolaeth sectyddol y llywodraeth yn y gogledd.

Mae'r pwyslais trwy'r Pecyn HMS ar yr adran fel uned weithredol gan y teimlir fod deialog ddenamig yn bosibl yn y sefyllfa hon gyda phob aelod yn llwyr ymwybodol o'r hyn a ddysgir, o'r cyfyngiadau a allai fod yn yr ysgol o safbwynt lle ac adnoddau, o'r polisi iaith ac unrhyw ystyriaeth arall.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

Mae'n gweld bai ar ei gynulleidfa (ac arno ef ei hun) am hwyluso ymdrechion yr awdurdodau i reoli protest drwy dderbyn cyfyngiadau ar, er enghraifft, eu rali%au a'u protestiadau.

Oherwydd cyfyngiadau ar amser -- fel ymhob rhaglen deledu mae'n siŵr -- ni allodd Moc Morgan wneud cyfiawnder â dawn Ray Jones, Conglywal, Blaenau i lunio ffyn o bob math o'r defnyddiau y mae'n eu casglu o frigau a changhennau y mae'n eu gweld yng nghoed ei fro.

Y mae'r gyllideb gwerthiannau yn effeithio ar gynnyrch y ffatri, ar y pryniannau ac ar ddylifiad arian; yn yr un modd, bydd y cyfyngiadau ar gynhyrchu yn penderfynu pa faint y gellir ei werthu.