Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyhuddiad

cyhuddiad

Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Y cyhuddiad yn erbyn Iesu o Nasareth, er hyn i gyd, oedd ei fod wedi hawlio bod yn Frenin Israel, yn Feseia.

Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.

Mae hynny'n gadael un cyhuddiad - ynglyn â throsglwyddiad Luke Beckett.

Go brin y gallwn dderbyn y cyhuddiad o fod yn "unochrog".

Yr hyn a'i cythruddodd oedd cyhuddiad pobl ei fod yn cael ei dalu am bregethu.

Yn gynwysedig yn y cyhuddiad o ymosod ar berson 'roedd, yn ogystal, clwyfo, ymosod ar giperiaid wrth botsian, treisio, herwgipio, a dynladrad.

O ystyried y mater o safbwynt ariannol yn unig, hawdd yw anghofio difrifoldeb sylfaenol y cyhuddiad o ddwyn, beth bynnag yw'r swm penodol, ac effaith dedfryd o euogrwydd o gyhuddiad o'r fath nid yn unig ar enw da a chymeriad y diffinydd ond hefyd ar ei swydd, ei deulu a'i safle yn y gymdeithas.

Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.

'Gyda'ch caniatâd caredig chi, eich mawrhydi,' meddai, 'mae un cyhuddiad yn erbyn Anti Meg sy'n waeth na'r un o gam-drin y caneri...'

Cyhuddodd Reg o ymyrryd yn rhywiol gyda hi mewn pwll nofio ond daeth yn amlwg yn ddiweddarach mai Mark oedd wedi talu iddi wneud y cyhuddiad.

'Roedd Rhian yn casáu Emma oherwydd y cyhuddiad yn erbyn Reg ond buan y daeth y ddwy'n ffrindiau wrth iddynt geisio gwahanu Reg a Diane.

Cyhuddiad arall oedd fod Pengwern yn wael ar un adeg a bod dwy o'r genethod wedi mynd â chwpanaid o de iddo yn ystod y nos a chael bod Philti'n gorwedd ar yr un gwely â'r cenhadwr o dan yr un mosquito net.

Yr oedd cyhuddiad o ragrith yn erbyn yr offeiriadaeth ar wefusau Hughes byth a beunydd yn y cyfnod hwn.

Fe allwn ni'r Cymry Cymraeg, bawb ohonom, fod yn euog o'r cyhuddiad hwn i'r graddau y bo ein harfer yn anghyson â'n proffes.

Eto ni allai ymesgusodi rhag y cyhuddiad ei fod yn cyflwyno pwyslais newydd, gan ddilyn Talsarn a Williams o'r Wern i fynnu nid yn unig ddigonolrwydd haniaethol yr Iawn ond hefyd lydanrwydd y porth a gallu pob pechadur i droi at yr Iachawdwr.

Os troseddodd yn unol âr cyhuddiad, boed hynny fel y bo.

Cyhuddiad sy'n cael ei wneud yn aml yn erbyn gwleidyddion yw eu amharodrwydd i ofyn cyngor.

Yng nghyd-destun yr achos cyfeithiol y gwnaed y cyhuddiad hwn ynddo, y mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ymddangos i mi yn gwbl anghredadwy.

Daeth Hugh Rawlins a Thomas Lee â'r cyhuddiad yn ei erbyn ei fod wedi ymdroi tan fis Ebrill cyn dod, "to the great disorder of the King's majesty's subjects, lack of reformation, and ministration of justice." Ond atebodd Ferrar nad arno ef oedd y bai am hynny oherwydd yr oedd ei ddyletswydd i'r brenin yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn y senedd yn Llundain.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt: