Go brin y gellid cyhuddo yr un aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fod funud yn brin o awr.
Neu'r troeon hynny y byddai hi'n meddwi'n ddireol a chymryd pob cyfle i ffraeo gyda ni, ein galw ni'n bethau ofnadwy, a'n cyhuddo ni o bob erchylltra.
Go brin y medrid cyhuddo'r pregethwr gwreiddiol hwnnw a adnabyddid fel 'Lloyd y Cwm', am iddo weinidogaethu yng Nghwmystwyth am flynyddoedd lawer, o fod yn 'boring'.
Ers mis Ionawr, mae gan yr heddlu alluoedd mwy eang nag erioed i gymryd pobl i'r ddalfa, ac i'w cadw yno, i'w chwilio, i'w holi, ac i'w cyhuddo.
Bu dadlau brwd am hyn a dod i'r casgliad y gellid eu cyhuddo o ddwyn y babell a'r corff ond efallai y gellid ystyried yr amddiffyniad o ddiffyg bwriad a diffyg gwybodaeth, pe codent hynny, oherwydd bod "dwyn" yn drosedd wahanol i "gymryd a gyrru i ffwrdd".
Wyt ti'n ceisio cyhuddo'r ferch o fynd i'r fath eithafon a lladd ei hunan dim ond er mwyn ein brifo ni?" "Nac ydw, wrth gwrs, nid dim ond er mwyn hynny.
Gadewch i eraill farnu oherwydd yn sgîl hynny all neb eich cyhuddo chi o fod gwynwyr uchel eich cloch.
Y cam nesaf oedd i'r gyrrwr ein cyhuddo o fwyta sglodion tatws ar y bws oherwydd dychmygai fod arogl sglodion yn yr awyr.
Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.
Yr Adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i lofruddiaeth Stephen Lawrence ym 1993 yn cyhuddo'r Heddlu o fwnglerwaith a hiliaeth.
Bu llawer o fân siarad, cyhuddo a bygwth ar ran y grwgnachwyr eisteddfodol, ac aeth rhywrai mor bell â chyhoeddi cân enllibus yn Tarian y Gweithiwr a'i galw'n 'Gân y Cenders'.
Enllib fflaidd fyddai cyhuddo Saunders Lewis a'r Blaid Genedlaethol o gefnogi Natsi%aeth ac o ddeisyfu buddugoliaeth i'r Almaen.
Cyhuddo Peter Sutcliffe, y 'Yorkshire Ripper', o lofruddio 13 o ferched.
Cyhuddo Frederick West o Gaerloyw o ladd wyth o ferched yn achos yr 'House of Horrors'.
Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o: sicrhau diogelwch ac amddiffyniad trafod ymosodiadau fel troseddau eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi cadw gwell cofnodion cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.
Yn sefyll eu prawf ym mis Tachwedd eleni bydd 45 o Lydawiaid – wedi eu cyhuddo o 'gynnig lloches achlysurol, ymwneud â throseddwyr ac â mudiad terfysgol'. Y mudiad terfysgol dan sylw yw ETA.
Cyhuddo 10 o ysgrifenwyr a chynhyrchwyr Hollywood o fod yn gomiwnyddion, a'u hesgymuno o'r herwydd.
Ac weithiau i'w chwilio a'u holi heb eu cyhuddo ar y diwedd.
Mae rhywun, byth a hefyd, yn cyhuddo cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru o fod yn swil ac aneffeithiol pan yw hi'n fater o werthu eu cynnyrch.
Daeth tro ar fyd Reg yn 1998 pan y cyfarfu Diane Francis - 'roedd ei merch, Emma, wedi cyhuddo Reg ar gam o ymyrryd gyda hi.
Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr.