Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyhyd

cyhyd

Golygai'r cytundeb `INF' y byddai taflegrau niwclear canolig yn cael eu dileu, gan gynnwys y rhai oedd wedi bod yn destun protest cyhyd yng Nghomin Greenham.

Ac yn peri i minnau feddwl; nid yn unig i lawer iawn mwy na Saith Seithug Mr Hague fod yn gwyntor mygau melys ond i ryfeddu fod yr effaith yn para cyhyd.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

Roedden ni'n hwyr iawn yn cael bwyd am fod y ffrae wedi para cyhyd, ond roedd yn werth aros am y pryd am fod Dad wedi mynd yr holl ffordd i%r dref i nôl tships i ni.

Roedd ~edi esgeuluso i gorff cyhyd a gwelodd ei fod yn prysur ladd ei un.

Cyhyd ag y gellir cofio mae dynion wedi lladd anifeiliaid er mwyn cael bwyd ac mae anifeiliaid wedi lladd anifeiliaid eraill am yr un rheswm.

Bydd talu Tal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y pedwerydd darllediad o fewn pedair wythnos i'r trydydd a bydd talu ail Dal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y chweched darllediad o fewn pedair wythnos i'r pumed.

Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn priodi.

Yn achos Rhaglen neu Raglenni a wneir ar gyfer ysgolion neu addysg oedolion bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau darlledu'r Rhaglen ddwywaith cyhyd a bod yr ail ddarllediad o fewn pedair wythnos i'r cyntaf.

Teimlai ei fod ef wedi colli ei fywyd am iddo aros cyhyd ar y llong yn achub eraill.

Dyma blaid ifanc a orfododd etholwyr Cymru i ystyried achos rhyddid eu cenedl fel y pennaf peth mewn gwleidyddiaeth, ac yn y man gorfodwyd y pleidiau eraill, a anwybyddodd anghenion Cymru cyhyd, i roi sylw iddi.

Yr unig reswm y medra i feddwl pam y bu'r beirniaid cyhyd yn cyrraedd y llwyfan i gyhoeddi rhywbeth oedd yn amlwg i bawb yn Neuadd Dewi Sant oedd ei fod am sicrhau y byddai pob sill o'i Gymraeg yn berffaith.

Y rhyfeddod oedd iddyn nhw ddal ati cyhyd, ac iddi ond y dim â chael 'i dal.

"Cadwch yn glos ar y palmant," meddai Huw, "cofiwch eich bod wedi colli'r arfer o gerdded mewn tre, a thraffig, wedi bod ar yr ynys cyhyd."

Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.

Trodd amryw yn chwerw, a bu'r orfodaeth a osodwyd arnynt i fyw cyhyd ar wahân i'w teuluoedd yn faich gorthrymus rhy drwm i'w gario.